Elin Orrells sef myfyriwr Amaethyddiaeth oedd derbynnydd diweddar gwobr bwrsariaeth am ragoriaeth alwedigaethol NPTC 2020 gan yr ysgol arlwyo, lletygarwch ac amaethyddiaeth.
Cafodd Elin, myfyriwr ar ddiploma estynedig lefel 3 mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg y Drenewydd ei gydnabod am y fwrsariaeth yn y seremoni gwobrwyo myfyrwyr yng Nghastell-nedd. Mae’r wobr yn dilyn cyfres o lwyddiannau i Elin hefyd, am ei bod wedi ennill gwobr Dysgwr Ifanc Coleg, o dan 26 oed yng Ngwobrau Lantra Cymru.
Mae Elin yn 19 oed o Aber-miwl ym Maldwyn, Powys ac mae hi’n gweithio’n galed yn y coleg a thu allan wrth helpu i redeg y fferm deuluol 1,200 erw. Mae cefnogaeth Elin ym musnes y teulu hefyd wedi cyfrannu yn y gorffennol at gael ei dyfarnu gan Waitrose fel ei gynhyrchydd cig oen y flwyddyn. Mae’r fformiwla hon ar gyfer llwyddiant yn dod o wir angerdd dros ffermio ac ymrwymiad i waith caled.
Dywedodd Sue Lloyd Jones Pennaeth Ysgol: Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth, Grŵp Colegau NPTC:
“Mae Elin yn fyfyriwr o botensial mawr, un sydd wedi dangos brwdfrydedd ac angerdd aruthrol am y diwydiant amaethyddol ac sydd wedi manteisio ar bob cyfle sydd ar gael iddi. Mae Elin yn hynod drefnus ac angerddol am y diwydiant a rôl mudiad y CFfI o fewn amaethyddiaeth. Mae gan Elin ddealltwriaeth ardderchog o systemau cig eidion a defaid a’r cyfleoedd a’r heriau a fydd yn codi yn y dyfodol. ”
Mae diddordeb Elin yn ymledu o helpu gyda rhedeg fferm o ddydd i ddydd i ddiddordeb brwd yn ei chariad at gŵn defaid Awstralaidd. Mae Elin yn aelod o ‘the working kelpie Council of Australia ‘ ac mae wedi datblygu ei gwefan ei hun, wedi magu a gwerthu ei chŵn defaid bach ‘ Trefaldwyn ‘ mor bell i’r Gogledd â Nairn a Kelso yn yr Alban i Penzance yn y De. Yn ddiweddar hefyd mae hi wedi ymddangos ar raglen ‘ Ffermio ‘ S4C gyda’i chŵn, gan esbonio pam eu bod yn berffaith ar gyfer y fferm.
Yn ogystal ag angerdd Elin ar y fferm, mae hi wedi bod yn aelod gweithgar o fudiad y ffermwyr ifanc ar ôl gwneud y gwaith fel Ysgrifennydd y Pwyllgor fforwm ieuenctid cyn symud yn llwyddiannus i rôl y Cadeirydd yn 2018 – 2019. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Elin wedi llwyddo i gynyddu presenoldeb mewn cyfarfodydd fforwm ieuenctid ac mae wedi cynrychioli’r aelodau ifanc yn rheolaidd yn ogystal â bod yn bresennol yn y cyfarfodydd a’r digwyddiadau sirol.
Dywedodd y darlithydd mewn Amaethyddiaeth Martin Watkin: “Mae Elin yn llysgennad gwych dros ffermwyr ifanc ac mae ei diddordeb a’i hymroddiad ym myd ffermio yn amlwg. Rwy’n siŵr y bydd ei llwyddiant ym myd amaethyddiaeth yn parhau i ddod i’r amlwg. ”