Mae myfyrwyr o Goleg y Drenewydd wedi bod yn rhan o gyfres o fentrau plannu coed yn ddiweddar.
Mae’r myfyrwyr Porth i Addysg wedi bod yn dysgu am faterion amgylcheddol ac roeddent yn falch o gael cymorth gan ddau sefydliad gwahanol.
Cododd y cyfle cyntaf i gefnogi nodau ac amcanion cynllun ffordd osgoi’r Drenewydd A483/A489 i ddarparu gwelliannau amgylcheddol ac ymgysylltu â’r gymuned ar y cynllun. Ymunodd y prif gontractwr ar gyfer y ffordd osgoi, sef Alun Griffiths (Contractors) Ltd ac ymgynghorwyr amgylcheddol y cynllun, TACP UK, â’r myfyrwyr Porth a chontractiwr tirlunio’r cynllun Till Hill i blannu perllan amgueddfa ar dir y Coleg ger ffordd osgoi’r Drenewydd. Bydd y berllan yn gartref i 50 o fathau o goed afalau a gellyg o dras leol a Chymreig sydd wedi mynd yn brin a gallent farw allan os na chynhelir DNA ac adnodd byw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Roedd yn fore oer miniog a hardd pan aeth y grŵp o fyfyrwyr Gateway ar daith gerdded fer heibio i fferm Coleg Fronlas (rhan o Goleg y Drenewydd) i gyrraedd ardal fechan o dir lle y cafodd bob un ohonynt lasbren ifanc a rhaw. Mewn aethant ati i gloddio’r tir rhewllyd i blannu amrywiaeth o hen goed afalau a gellyg Cymreig a fydd yn troi’n berllan ymhen amser. Cefnogodd cynrychiolwyr Griffiths Contractors y myfyrwyr i blannu 50 o goed.
Dywedodd Gail Jones, Swyddog Cyswllt Cymunedol gydag Alun Griffiths Contractors Ltd: “Mae wedi bod yn hyfryd gweithio gyda’r myfyrwyr i ystyried materion amgylcheddol. Mae Griffiths wedi ymrwymo i bwysigrwydd yr amgylchedd naturiol o ran ystyried ffyrdd o gydbwyso datblygiad a chynaliadwyedd. Mae plannu coed yn rhan o’n hymdrechion i ystyried ansawdd aer, cipio a storio carbon a gofalu am ein bioamrywiaeth.”
Mae’r ail fenter, ‘Plannu ar gyfer y Dyfodol’, yn rhan o Siarter Coed yr Ymddiriedolaeth Coetiroedd sy’n annog pobl ifanc i ailgysylltu â byd natur. Cafodd y prosiect i wneud cais am y coed am ddim ei gefnogi gan y myfyriwr TBAR, Suzy Kemp, ac roedd yn cynnwys plannu cymysgedd o goed derw a bedw arian yng Ngholeg y Drenewydd.
Meddai Karen Letten, Rheolwr Ymgysylltu ag Ysgolion a’r Gymuned yr Ymddiriedolaeth Coetiroedd:
“Mae coed yn creu gofodau dysgu ysbrydoledig – dosbarthiadau awyr agored naturiol, cynaliadwy a deinamig lle gall dysgwyr gymysgu mwd â mathemateg a rhawiau â gwyddoniaeth tra’n cysylltu â natur a chael hwyl.”
Mae Sainsbury, IKEA FAMILY, chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobla a Yorkshire Tea yn ariannu 1.8 miliwn o goed am ddim i ysgolion a sefydliadau addysg yn y DU fel rhan o’u partneriaethau parhaus gyda’r Ymddiredolaeth Coetiroedd.
Ewch i wefan yr ymddiriedolaeth coetiroedd i gael gwybod rhagor http://www.woodlandtrust.org.uk/freetrees