Gan fod Grŵp Colegau NPTC wedi symud i ddysgu ar-lein dros dro yr wythnos diwethaf, mae staff a myfyrwyr wedi bod yn dod ynghyd o bell i ganfod ffyrdd newydd ac arloesol o barhau i ddysgu a chwblhau gwaith ac i herio ac ymestyn ei gilydd.
Dywedodd y Pennaeth a’r Prif Weithredwr Mark Dacey: “Er gwaetha’r pwysau sydd arnom ni, rwy’n hynod falch o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan staff a myfyrwyr, mae’n ysbrydoledig, a dweud y lleiaf, o fyfyrwyr yn ffilmio eu sesiynau dawns jazz i ffrydio byw a gweminarau, myfyrwyr yn helpu ei gilydd a sefydlu eu grwpiau cymorth eu hunain i helpu ei gilydd drwy hyn”.
Un o’r enghreifftiau sydd wedi ymddangos ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y coleg yw darlithoedd o bell a heriau dawns y darlithydd dawns Craig Coombs, sydd wedi ennyn diddordeb ei fyfyrwyr mewn ffordd newydd.
Eglurodd Craig: “Mae myfyrwyr dawns Coleg Castell-nedd wedi bod yn gweithio o bell ers wythnos ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol! Maent wedi cael prosiectau ymchwil a gynlluniwyd yn arbennig sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau ymarferol, gan roi cyfle i’r myfyrwyr ddysgu am ddawns mewn ffordd hollol newydd.
“Mae’r myfyrwyr dawns lefel 3 wedi profi dosbarthiadau dawns byw ar-lein ac maent hefyd wedi cael eu cyflwyno i fyd dawns ‘safle-benodol’, gan greu eu coreograffi unigol eu hunain a ysbrydolwyd gan eu cartref, gan ddilyn ôl traed ymarferwyr fel Lloyd Newson a Lea Anderson.
“Ddydd Gwener, roedd y myfyrwyr i fod i berfformio yn eu sioe diwedd blwyddyn, ond oherwydd eu bod yn absennol yn gorfforol o’r coleg, maent yn awr yn gweithio gyda’i gilydd i olygu o ffilm o’u hymarferion, yn barod i’w lansio ar yr union adeg yr oedd y sioe i fod i ddechrau. Mae hwn yn gyfnod cyffrous wrth iddynt ymgysylltu o bob rhan o’r ardal i gydweithio fel Cwmni Dawns One Vision.”
Ychwanegodd Craig: “Fel yr arweinydd pwnc a chydlynydd y cwrs dawns, roedd yn bwysig i mi osgoi’r agwedd ‘gwneud y tro’, yn ystod y cyfnod hwn. Rwyf am barhau i addysgu fy myfyrwyr drwy ddawns mewn ffordd sy’n hyrwyddo gwreiddioldeb, mewn amgylchedd dysgu rhithwir cadarnhaol. Gallai dawns fod o fewn stiwdio o dan amgylchiadau arferol, ond dyma’r amser perffaith i ddangos i’r byd bod dawns yng Ngholeg Castell-nedd yn gymaint mwy na dysgu’r camau yn unig. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at ymchwilio i addysgu a dysgu dawns mewn ffordd sy’n torri tir newydd i ni i gyd”.
Un o’r syniadau newydd cyffrous ar gyfer y myfyrwyr dawns (ac unrhyw un arall sy’n cymryd rhan), yw’r ‘Her Parhewch i Ddawnsio’ a lansiwyd yn ddiweddar gan Craig. Mae’r her hon yn gweithio mewn ffordd debyg i’r ‘Her Bwced Iâ’; os bydd unrhyw un yn cael ei ‘enwebu’ i ‘Barhau i Ddawnsio’ yna mae ganddyn nhw 24 awr i ffilmio eu hunain yn dawnsio i ‘can’t Stop the Feeling’ gan Justin Timberlake. Pwy a ŵyr sawl grŵp o fyfyrwyr, staff a rhieni Grŵp Colegau NPTC fydd yn cael eu henwebu!
Cyfaddefodd Craig ei fod wrth ei fodd â phositifrwydd y myfyrwyr dawns a’r negeseuon o ddiolch gan y myfyrwyr a’u rhieni fel ei gilydd. Ar y diwrnod olaf yn y coleg, perfformiodd y myfyrwyr Dawns Safon Uwch waith dawns ar gyfer yr arholwr AQA – yn ffodus, cyn i’r Coleg roi’r gorau i addysgu wyneb yn wyneb. Yr un prynhawn gwnaeth y myfyrwyr dawns BTEC Lefel 3 berfformio eu sioe Cwmni Dawns One Vision (a oedd i’w pherfformio ar 3ydd Ebrill) i Ganolfan Celfyddydau Nidum wag.
Dywedodd Craig: “Ni allwn fod yn fwy balch ohonynt. Perfformiwyd eu gwaith dawns fel petai’r theatr yn llawn. Roedd ppawb yn llawn emosiwn ac egni fel ei gilydd, ac roedd y dawnsio yn rhagorol. Ar adegau fel hyn, mae un peth yn sicr! Nid yw dawns yng Ngrŵp Colegau NPTC erioed wedi teimlo’n gryfach! Mae’r diolch am hyn i ymroddiad fy myfyrwyr ac ymrwymiad y tîm darlithio dawns. Rwy’n gobeithio gweld rhai ohonyn nhw’n cael eu henwebu ar gyfer yr her ‘Parhewch i Ddawnsio’ hefyd.
Gallwch weld yr holl waith diweddaraf gan Craig a’i fyfyrwyr, ar ei dudalen Facebook:https://www.facebook.com/craig.coombs.98 neu ar YouTube yn:https://www.youtube.com/channel/UCL0MnSbIhEzybXBCgRloA9Q