Mae myfyrwyr o bob rhan o Grŵp Colegau NPTC yn dathlu casgliad arbennig o fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni. Enillodd cyfanswm o 16 o fyfyrwyr fedalau mewn cyfres o gystadlaethau lleol a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth. Bu myfyrwyr yn cystadlu ar draws ystod o sectorau gan gynnwys TG, peirianneg, arlwyo, a therapi harddwch.
Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw codi proffil sgiliau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae’r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu’r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi’i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills y DU.
Dywedodd Eddy Jones, Hyrwyddwr Sgiliau Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r ffaith bod 16 o’n myfyrwyr wedi ennill medalau yn dweud llawer nid yn unig am yr ymrwymiad y mae’r myfyrwyr hyn yn ei ddangos i’w maes sgiliau dewisedig, ond hefyd am ansawdd yr addysgu a’r hyfforddi sy’n digwydd yn y coleg. Rydym yn gyson yn gwneud yn dda mewn cystadlaethau ym mhob disgyblaeth, ond mae gweld ystod mor amrywiol o sgiliau yn dod drwodd yn dangos bod myfyrwyr ym mhob maes wedi’u hyfforddi i’r safonau uchaf oll ar draws holl safleoedd ein coleg. Rwy’n falch iawn o’r holl enillwyr, ac rwy’n edrych ymlaen i weld faint o’r myfyrwyr hyn sy’n mynd ymlaen i gystadlu yn WorldSkills.”
Dyma restr lawn o enillwyr y medalau:
AUR
Samuel Cottrell – Peirianneg Fecanyddol: CAD
Jessica Jones – Patisserie a Melysion
Lucy Lewis – Therapydd Harddwch
ARIAN
Dylan Rich – Atgyweirio Cyrff Cerbydau
Zara Evans – Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Joshua Roberts – Seiberddiogelwch
Mitchell Wilkes – Seiberddiogelwch
Dewi James – Sgiliau Codio
Luke Wooley – Dylunio Gwe
EFYDD
Megan Eayrs – Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaeth Bwyty
Phillip Beddoes – Celfyddydau Coginio
Eleri Dowell – Ymarferydd Therapi Harddwch
Georgia Harris – Gofal Plant
Alex Griffiths – Seiberddiogelwch
Dylan Rogers – Seiberddiogelwch
Jamie Mellin – Dylunio Gwe