Y cyn fyfyriwr Romina West yn mynd yn ôl i’r dosbarth, mewn rôl newydd fel darlithydd coleg.
Dechreuodd Romina West, Darlithydd Busnes yn y coleg yng Ngholeg Bannau Brycheiniog fel cyn fyfyriwr. Roedd Romina, a oedd yn fyfyriwr aeddfed ar y pryd, yn astudio BTEC Lefel 3 mewn Busnes yn 2011 dan arweiniad agos darlithwyr y cwrs, Rob Flower a Mark Hughes.
Fe wnaeth cyn brif gogydd Roberto’s barhau â’u hastudiaethau gyda ni ar ddiwedd y BTEC i ymuno â’r BA mewn Rheoli Busnes a TG a gynhelir mewn partneriaeth â Wrecsam, Prifysgol Glyndŵr. Ym mis Medi 2016 graddiodd Romina o’r coleg gyda gradd ail ddosbarth uwch, gan ddangos bod ei phenderfyniad wedi talu ar ei ganfed.
Gyda amser Romina yn y coleg yn awr ar ben penderfynodd ddechrau ei blwyddyn hyfforddiant TBAR ym Mhrifysgol De Cymru, sef partner arall y coleg. O fewn y TBAR roedd yn rhaid i Romina ymgymryd â lleoliadau gwaith lle dewisodd hi ddod yn ôl i le cyfarwydd, gan weithio gyda’i chyn ddarlithwyr, Rob a Mark.
Y tro hwn roedd Romina yn gallu eistedd yr ochr arall i’r ddesg ac addysgu’r disgyblion yn y coleg am ei gwybodaeth am Fusnes yr oedd hi wedi’i hennill o’i hamser yn y Coleg.
Erbyn diwedd y TAR roedd Romina wedi gwneud argraff o fewn y coleg a chynigiwyd rôl iddi fel Darlithydd Busnes yn 2019. Roedd Romina, fu’n astudio yn y coleg am lawer o’i haddysg yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r coleg yr oedd wedi rhoi cymaint iddi hi, gan gynnig i fyfyrwyr y ddarpariaeth safon uchel a roddwyd iddi hi.
Ychwanegodd Romina: “Fel myfyriwr aeddfed sy’n gweithio’n amser llawn, ni allaf bwysleisio pa mor gefnogol y mae’r coleg wedi bod drwy gydol fy addysg yn NPTC. Maent yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddiwallu anghenion eu dysgwyr ac rwy’n falch iawn o fod wedi dod yn rhan o dîm NPTC a gallu rhoi yn ôl i’r gymuned.”
Yng Ngrŵp Colegau NPTC rydym yn falch o fod wedi datblygu nifer o raglenni gradd eang eu natur mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau addysg uwch o fri, megis Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol De Cymru a Pearson.
Cynlluniwyd ein holl Gyrsiau Addysg Uwch gyda swyddi a gyrfaoedd yn y dyfodol mewn cof ac rydym yn ymdrechu i roi i’n graddedigion y profiad a’r wybodaeth orau i’w paratoi ar gyfer byd gwaith.
Drwy astudio yn ein Coleg, gallwch wneud astudio’n haws drwy beidio â gorfod symud i ffwrdd a gallu gweithio o gwmpas bywyd teuluol, gyda chostau byw’n is o ganlyniad i lai o gostau teithio. Gan fod maint dosbarthiadau’n llai, gallwch gael mwy o sylw ac arweiniad unigol gan eich tiwtor. Mae’n cyrsiau cynnig llwybrau amser llawn a rhan-amser, gydag amserlen yn cael ei threfnu fydd yn gweddu i chi.