Mae’r gwaith o droi Academi Chwaraeon Llandarcy (rhan o Grŵp Colegau NPTC) yn ysbyty maes â chyfarpar llawn gyda 340 o welyau, wedi’i gwblhau mewn ychydig dros dair wythnos ac mae’r adeilad wedi’i roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Bydd Ysbyty Maes Llandarcy, bwys i Gyffordd 42 o’r M4, yn darparu gwelyau ychwanegol y mae mawr angen amdanynt gan y GIG, ar ben y rhai a grëwyd yn ysbytai Treforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot, wrth i gleifion allanol a safleoedd clinigol eraill gael eu hailgynllunio’n gyflym i ymateb i heriau achosion y Coronafirws.
Gweithio ddydd a nos gan gynnwys dros gyfnod gŵyl banc y Pasg, roedd y gweddnewidiad cyflym hwn yn ymdrech ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, tîm dylunio a phensaernïol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y cwmni contractwyr Andrew Scott Cyf o Bort Talbot a Grŵp Colegau NPTC, sy’n berchen ar y cyfleuster ac yn gyfrifol am ei reoli.
Fel arfer mae Academi Chwaraeon Llandarcy yn cael ei defnyddio gan filoedd o fyfyrwyr a phobl sy’n frwd am gadw’n heini, ynghyd â’r Gweilch a grwpiau cymunedol, sy’n defnyddio’r cyfleusterau ar flaen y gad ar gyfer eu hyfforddiant. Bydd y cyfleuster yn cael ei adfer yn llwyr i’w defnydd gwreiddiol ar ddiwedd argyfwng y Coronafirws pan fydd y cyfleuster yn cael ei gwacáu, ei lanhau’n ddwfn a’i roi yn ôl i’r coleg fel cyfleuster chwaraeon a fydd yn gwbl weithredol unwaith eto.
Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Rwy’n synnu ar faint o waith sydd wedi cael ei wneud i drawsnewid ein Coleg a’n cyfleusterau hyfforddi i fod yn ysbyty maes mewn ychydig wythnosau yn unig. Rwy’n gwybod bod ein staff wedi bod yn gweithio’n agos gydag Andrew Scott, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd i ddarparu gwelyau dros dro i drigolion sy’n byw yn y cymunedau a wasanaethir gennym. Rwy’n ddiolchgar dros ben iddyn nhw am helpu i hwyluso’r prosiect hwn. ”
Dywedodd arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones: “Ar ddiwedd mis Mawrth, roedd adeilad yr Academi Chwaraeon, a elwir ‘The Barn’, yn neuadd chwaraeon ac yn arena dan do 3G. Heddiw mae’n ysbyty maes sy’n gwbl weithredol.
“Mae hyn yn enghraifft o waith partneriaeth ar ei orau ac rydym i gyd yn falch o fod wedi gwneud ein rhan i ddarparu rhagor o welyau i’r GIG i’w cefnogi yn eu hymdrechion i achub bywydau.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect. Mae staff o dîm dylunio a phensaernïaeth y cyngor a’r cwmni adeiladu lleol Andrew Scott Cyf wedi cyd-weithio’n ddiflino i gynllunio a chyflwyno’r cyfleuster hwn mewn llai na mis. ”
Rhoddwyd ysbyty maes Llandarcy i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar ddydd Llun 20 Ebrill. Mae system lloriau finyl coed newydd wedi’i osod, wardiau wedi’u rhannu a systemau gwresogi, plymio a thrydan newydd, a fydd yn cynorthwyo’r GIG i ofalu am gleifion. Mae’r adeilad hefyd yn cynnwys cyfleusterau lles ac arlwyo ac ystafelloedd staff.
Dywedodd Tracy Myhill, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Mae hwn yn swm aruthrol o waith a gafodd ei wneud o fewn amserlen dynn iawn. Mae’n gamp na welwyd ei thebyg o’r blaen, a dylai pawb sydd wedi bod yn rhan o’r peth fod yn hynod o falch. Hoffem ddiolch i gyngor Castell-nedd Port Talbot, y contractwyr, Andrew Scott Cyf, a Grŵp Colegau NPTC sy’n berchen ar yr adeilad. ”
Roedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am gynllunio, rheoli a goruchwylio’r gwaith adeiladu, gan alluogi staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ganolbwyntio ar gynllunio ehangu ei wasanaethau, staffio, ac ymdrin â materion iechyd eraill o bwys sy’n gysylltiedig â COVID-19.
Roedd y Cyngor yn cyd-weithio â’r Bwrdd Iechyd a Grŵp Colegau NPTC i sicrhau bod popeth yn ei le mewn pryd. Rhoddodd y Coleg hefyd fygydau wyneb a dderbyniwyd gan gydweithwyr yn ei sefydliad partner yn Chongqing-Tsieina.
Mae’r prosiect yn rhan o ymdrech ar y cyd ehangach rhwng cynghorau Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a phartneriaid eraill ar draws rhanbarth Bae Abertawe i ddarparu mwy na 1,000 o welyau ysbyty ychwanegol i gefnogi ymateb y GIG i argyfwng y Coronafirws.