Mae prentis saer coed a astudiodd yng Ngholeg y Drenewydd wrth ei fodd ar ôl sicrhau swydd yn dilyn llwyddo i ennill ei gymwysterau.
Astudiodd Dominic Evans, sy’n 19 mlwydd oed, Waith Saer Lefel 2 fel rhan o’r cynllun prentisiaeth gyda’r Coleg a F1 Modular, cwmni adeiladu oddi ar y safle yn y Drenewydd. Fel rhan o’i astudiaethau, dysgodd Dominic sut i hongian drysau a gosod cloeon a thrwy ei leoliad gwaith, gallai ehangu ei wybodaeth a rhoi rhai o’i sgiliau ar waith.
Siaradodd Dominic am ei gyfnod yn y Coleg, gan sôn am y gefnogaeth ardderchog a gafodd gan ei ddarlithwyr a’r tîm prentisiaethau. Gan argymell y cwrs i eraill, dywedodd Dominic: “Mae’r cwrs yn rhagorol o ran darparu cefnogaeth. Bu fy narlithydd George Stewart yn gymorth i mi drwy’r cwrs, gan ddysgu ffyrdd newydd i mi o wneud pethau a rhoi llawer o gymhelliant i mi. Mae Tom Naylor fy asesydd NVQ wedi bod yn help mawr hefyd, gan fy nghefnogi i orffen fy NVQ ar frys oherwydd y sefyllfa bresennol gyda COVID-19, ynghyd â Theresa Mullinder yn Pathways (yr adran yng Ngholeg y Drenewydd sy’n cynnal prentisiaethau) sydd wedi fy nghefnogi drwy gydol y cwrs.”
Cafodd Dominic ei hun yn elwa ar gefnogaeth effeithlon y tîm prentisiaethau Pathways ar ôl cael trafferth i gwblhau ei gymhwyster oherwydd y cyfnod o gyfyngiad ar symudiad. Collodd ei waith, ac roedd y tîm wedi gallu arwain Dominic i nodi tystiolaeth amgen oedd ei hangen i gyflawni’r cwrs.
Mae Tom Naylor wedi bod yn asesydd NVQ ar Dominic ers mis Hydref 2019, gan ei ddisgrifio fel myfyriwr brwdfrydig a oedd, o’r cychwyn cyntaf, yn awyddus i gymryd rhan yn ei waith ac a wnaeth ddarparu tystiolaeth dda drwy gydol y broses, gan ymateb yn dda i’r aseiniadau.
Dywedodd Tom: “Yn ystod fy ymweliadau, roedd ei agwedd aeddfed at ddysgu sgiliau a’i gymhwysedd wrth wneud y tasgau wedi gwneud argraff arnaf. Roedd ganddo hefyd berthynas ardderchog gyda’i hyfforddwyr a’i gyfoedion. Mae wedi bod yn bleser bod yn asesydd arno eleni a dymunaf bob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”
O ganlyniad i’w agwedd at weithio’n galed, Dominic oedd y myfyriwr NVQ lefel 2 cyntaf i gwblhau gofynion y cwrs a phasio eleni ym Mhowys.
Cafodd ganmoliaeth hefyd o ran ei agwedd gan y Cynghorydd Hyfforddi Theresa Mullinder, a ddywedodd: “Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Dominic ers Awst 2019. Rwyf bob amser wedi meddwl ei fod yn ddyn ifanc dymunol iawn, sy’n frwdfrydig ac yn gweithio’n galed. Rydym wedi cadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod o gyfyngiad ar symudiad ac roeddem wrth ein boddau nad oedd wedi gadael i’r cyfnod hwn o ansicrwydd ei ddal yn ôl. Ymgeisiodd am swydd newydd gyda Tai Dyfi Homes sy’n adeiladu cartrefi ffrâm bren pwrpasol a dymunaf bob llwyddiant i Dominic gyda’i ddyfodol.”
Mae Dominic bellach yn edrych ymlaen at ddechrau swydd newydd ac mae’n optimistaidd am y dyfodol. Mae’r Coleg yn edrych ymlaen at groesawu Dominic yn ôl pe byddai’n penderfynu parhau gyda’i hyfforddiant a symud ymlaen i Brentisiaeth Gwaith Saer Lefel 3 ym mis Medi.