Mae staff ledled Grŵp Colegau NPTC wedi bod yn gwneud eu gwaith mewn gwahanol ffyrdd ers y cyfyngiadau symud ac mae rhai wedi ymestyn eu diddordebau i gefnogi eraill. Mae hyn yn wir o ran Llyfrgellydd Coleg y Drenewydd, Jacinta Jolly, sydd wedi dechrau cynnig ei hamser i ddosbarthu llyfrau bob wythnos mewn cysylltiad â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys.
Nid yw llyfrgelloedd Powys wedi bod ar agor ers y cyfyngiadau symud ond maent wedi cynnig gwasanaeth ‘Archebu a Chasglu’. Mae hyn yn caniatáu i gwsmeriaid barhau i gyrchu deunydd darllen. I’r rhai hynny nad ydynt yn gallu casglu eu llyfrau, cânt eu dosbarthu gan wirfoddolwyr. Mae Jacinta wedi bod yn dosbarthu llyfrau llyfrgell o fewn yr ardal leol yn unol â’r galw lleol.
Clywodd Jacinta am wasanaeth newydd y llyfrgell a gan ei bod yn llyfrgellydd roedd yn awyddus i’w gefnogi. Roedd Lynne Evans, Pennaeth Gwasanaethau Llyfrgell y Colegau, yn cefnogi ei diddordeb i gynorthwyo Gwasanaeth Llyfrgell Powys yn y modd hwn.
Dywedodd Jacinta: ‘Dim ond ychydig bach o amser bob wythnos mae’n ei olygu, ac roedd yn ymddangos fel cyswllt braf rhwng y Coleg a’r llyfrgell gyhoeddus ac yn estyniad o’m rôl fel llyfrgellydd.’
I archebu llyfrau llyfrgell o wasanaeth llyfrgell Powys ewch i www.powys.gov.uk/orderandcollectbooks neu ffoniwch y gwasanaeth ar 01597 827460.