Wrth i Loegr orfodi gwisgo mygydau mewn llawer o fannau cyhoeddus, mae’n debygol na fydd Cymru ymhell ar ei hôl hi o ran sicrhau bod gwisgo mwgwd yn orfodol. Mae llawer o bobl wedi defnyddio’r cyfle hwn i fanteisio ar eu dawn greadigol a gwneud eu mygydau eu hunain.
Mae Roo (Ruth) Nicholls, o’r Trallwng, wedi bod yn gwneud mygydau wyneb fel rhan o’i Phrosiect Mawr Olaf yn ei Diploma Sylfaenol BTEC Celf a Dylunio Lefel 3/4. Mae Roo, sy’n fyfyrwraig yng Ngholeg y Drenewydd, wedi bod yn gwneud y mygydau i’w rhoi i weithwyr allweddol lleol sydd eu hangen fwyaf, yn ogystal â gwerthu rhai ar-lein.
Mae gan y mygydau hidlenni o safon feddygol yn y leinin. Mae Roo wedi bod yn brysur drwy gydol y cyfnod cyfyngiadau symud, gan wneud y mygydau yn ogystal â chadw i fyny â’i gwaith coleg lle dyfarnwyd Teilyngdod iddi ar gyfer y prosiect.
Gallwch ddod o hyd i greadigaethau anhygoel Ruth a’u prynu yma: https://www.facebook.com/thelittleshropshirelass