Er gwaetha’r cyfyngiadau symud, mae’r Ysgol Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yng Ngrŵp Colegau NPTC a myfyrwyr yr Academi Cerddoriaeth wedi parhau i ffynnu a chael llwyddiant eithriadol. Dyma gipolwg ar beth mae ein myfyrwyr Cerddoriaeth ni wedi bod yn ei gyflawni, sydd wir yn ysbrydoledig.
Fe wnaeth y myfyriwr Cerddoriaeth Safon Uwch, Thomas Howell, sefyll ei Ddiploma Piano ABRSM a Llais Gradd 8 ychydig ddyddiau cyn y cyfyngiadau symud. Cafodd Tom ganlyniad anhygoel o 48/50 yn ei ddiploma Piano ac Anrhydedd yn ei lais Gradd 8. Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae Tom wedi parhau i weithio’n galed er mwyn ennill rhagor o gymwysterau, gan gynnwys Anrhydedd mewn Diploma Cyfansoddi, ac mae wedi sefyll ei arholiad theori Gradd 8 ar 4ydd Gorffennaf.
Dywedodd Tom, a fydd yn symud i Chichester ym mis Awst i gymryd ei le fel Ysgolor Organ yng Nghadeirlan Chichester: “Rydw i wir wedi mwynhau fy nghyfnod yn yr Academi Cerddoriaeth. Hefyd mae Coleg Castell-nedd yn darparu hyfforddiant offerynnol a lleisiol gyda thiwtoriaid yn ymweld sy’n arbenigwyr yn eu maes. Drwy gyfrwng y cynllun hwn, rydw i wedi cael anrhydedd mewn Llais Gradd 8 ABRSM a Diploma ARSM ar y Piano. Mae’r myfyrwyr yn cael eu hannog i weithio’n annibynnol ac mae dysgu’r sgil yma’n berthnasol i weithio yn y diwydiant ehangach. Mae cymryd rhan mewn llu o weithgareddau allgyrsiol wedi gwneud yr amser rydw i wedi’i dreulio yma mor werthfawr”.
Meddai wedyn: “Mae creu cerddoriaeth ar y cyd yn agwedd ganolog ar fywyd y coleg, gan gynnwys bandiau mawr, ensembles bach, côr a chôr siambr i enwi dim ond rhai. Hefyd rydw i wedi cael cyfle i ddatblygu fy sgiliau arwain drwy arwain y côr siambr yng Ngŵyl genedlaethol Music for Youth yn Neuadd y Ddinas Birmingham. Fe wnaethon ni gyflwyno rhaglen amrywiol o ragoriaeth gorawl. Hefyd cyfleoedd fel gweithio gyda cherddorfeydd pwll a hyd yn oed perfformio concerto organ Handel yn F a Symffoni Mozart yn G leiaf, y symudiad 1af. Does dim posib canmol digon ar yr Academi Cerddoriaeth – ac mae’n amhosib crybwyll yr holl brofiadau rydw i wedi’u cael yn ystod fy nwy flynedd yng Ngholeg Castell-nedd. Rydw i’n gwybod yn sicr fy mod i wedi gwneud ffrindiau oes ac wedi cael fy mharatoi yn ardderchog ar gyfer bywyd cyffrous o greu cerddoriaeth yn broffesiynol”.
Roedd Tom yn barod iawn i ddiolch i’w Ddarlithydd, Carolyn Davies: “Mae hi wedi bod yn graig yn cefnogi gyda cheisiadau. Mae hyn wedi cynnwys fy nghefnogi i i gael lle fel Ysgolor Organ yng Nghadeirlan Chichester a lle ar y cwrs organ uchel ei barch yn y Conservatoire Brenhinol yn Birmingham. Diolch o galon i Carolyn a’r Academi Cerddoriaeth am eich cefnogaeth gyson. Fe fyddaf i’n fythol ddiolchgar ’mod i wedi dewis Academi Cerddoriaeth Coleg Castell-nedd i astudio ynddi”.
Mae myfyrwyr eraill wedi sicrhau lle mewn conservatoires a phrifysgolion nodedig hefyd, gan gynnwys Jodie Lambert Tandy a fydd yn dilyn cwrs Astudiaethau Llais yn y Conservatoire Brenhinol yn Birmingham o fis Medi ymlaen ac Alex Isles a fydd yn astudio Llais yn y Trinity Laban yn Llundain. Mae Alicia Williams wedi cael cynnig lle ac ysgoloriaeth gwerth £16,000 i astudio ym Mhrifysgol Durham ac fe fydd Ryan D’Auria yn gwireddu ei freuddwyd o ddilyn cwrs cerddoriaeth ym Mhrifysgol Sba Caerfaddon.
Dywedodd y myfyriwr Cerddoriaeth Lefel 3, Ryan D’ Auria: “Rydw i’n gwerthfawrogi popeth mae’r Academi Cerddoriaeth wedi’i wneud, nid dim ond i mi ond i’r holl fyfyrwyr ac, yn bersonol, am fy ngwthio i a fy ngefnogi i, yn enwedig gyda gweithgareddau allgyrsiol a fy natblygiad personol i fel cerddor ac artist. Rydw i eisiau diolch i staff yr Academi Cerddoriaeth yng Ngholeg Castell-nedd am fod yn rhan enfawr o wneud i mi gredu yno i fy hun a helpu i fy ngwthio i. Dyma ddwy flynedd orau fy mywyd i a does dim posib diolch digon i chi am fy helpu i i gyrraedd ble rydw i nawr”.
Dywedodd Elizabeth Herbert, sy’n symud ymlaen i’r Royal Holloway, Prifysgol Llundain, i astudio Drama ac Astudiaethau Theatr: “Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydw i wir wedi mwynhau astudio yn Academi Cerddoriaeth Grŵp Colegau NPTC. Er bod y cymhwyster Cerddoriaeth Safon Uwch yn gwrs eithriadol heriol a phrysur, mae’r hyfforddiant a’r gefnogaeth mae’r adran wedi’u darparu wedi galluogi i mi sicrhau dealltwriaeth fanwl o amrywiaeth o genres cerddorol, gan gynnwys clasurol, jazz a theatr gerdd. Fe wnaeth yr addysgu angerddol a’r wybodaeth arbenigol gefais i gan fy nhiwtor fy ysbrydoli i i anelu’n uchel a cheisio ehangu fy sgiliau cerddorol bob amser.
Meddai wedyn: “Yn gyffredinol, mae Academi Cerddoriaeth Grŵp Colegau NPTC yn meithrin ethos teuluol ac yn creu awyrgylch cynnes a chroesawus i’w myfyrwyr. Mae’r Academi Cerddoriaeth wedi galluogi i mi dyfu fel myfyriwr. Heb anogaeth ac ysbrydoliaeth fy hoff diwtor i, Carolyn Davies, ’fyddwn i ddim yn mynd i addysg prifysgol yn teimlo mor barod a brwdfrydig. Mae ei pholisi drws agored, ei gwybodaeth gerddorol helaeth a’i hysbryd o ran addysgu yn ased i’r Academi Cerddoriaeth”.
O ran cynnydd y myfyrwyr HND, bydd dau o fyfyrwyr yr 2il flwyddyn yn parhau â’u hastudiaethau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae Cellan Morgan (Trwmped) a Sophie Williams (Clarinet, Sacs a Ffliwt) yn ‘feterans’ yn yr Academi Cerddoriaeth. Astudiodd y ddau yn llwyddiannus ar y cwrs Cerddoriaeth Safon Uwch a BTEC Lefel 3 cyn penderfynu aros yn yr Academi Cerddoriaeth am ddwy flynedd bellach i wella eu sgiliau cerddorol. Mae’r ddau fyfyriwr wedi bod yn rhagorol o’r diwrnod cyntaf. Mae eu hymrwymiad a’u hymroddiad wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau a bydd chwith mawr ar ôl y ddau, a’r myfyrwyr eraill i gyd sydd yn gadael.
Siaradodd Pennaeth yr Ysgol ar gyfer y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio, Victoria Burroughs, am straeon llwyddiannus yr Academi Cerddoriaeth: “Mae straeon llwyddiannus myfyrwyr yr Academi Cerddoriaeth yn gwbl ysbrydoledig i ni i gyd ac mae tîm addysgu’r Academi Cerddoriaeth yn hynod falch o’n myfyrwyr ni ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yng ngham nesaf eu haddysg a’u hyfforddiant. Mae’r Academi Cerddoriaeth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr ragori a chyrraedd eu llawn botensial. Mae’n glir iawn bod Tom, Libby, Ryan, Jodie, Alex, Alicia, Cellan a Sophie wedi cyfrannu at bob agwedd ar gymuned y coleg a’r Academi Cerddoriaeth, ac mae eu gwaith caled wedi talu ar ei ganfed.