Mae Grŵp Colegau NPTC wrthi’n llongyfarch ei holl fyfyrwyr sy’n cael eu canlyniadau heddiw ar ôl blwyddyn na allai unrhyw un fod wedi’i rhagweld. Yn wyneb pandemig byd-eang, llwyddodd y coleg i gynnal ei gyfradd lwyddo gyffredinol o 99 y cant a chyflawnodd y nifer uchaf o ganlyniadau A* yn hanes y coleg.
Gwelwyd cynnydd eithriadol i 20 y cant o ran canlyniadau A *- A yn y coleg gyda myfyrwyr yn cyflawni cyfradd basio arbennig o 100 y cant mewn 32 o bynciau Safon Uwch, gyda hanner ohonynt yn cyflawni graddau A*- B a chyflawnodd tri chwarter ohonynt raddau A*- C. Roedd newyddion da hefyd i’r myfyrwyr a ddilynodd y rhaglen GATE i fyfyrwyr galluog a thalentog, gyda 84% yn ennill graddau A*/A a llwyddodd 100% ohonynt i ennill graddau A*- B. 99.2% yw ein cyfradd lwyddo gyffredinol A*- E ar gyfer cymwysterau Safon Uwch ac enillodd 71 o fyfyrwyr raddau rhagoriaeth driphlyg yn y cymwysterau Diploma Cenedlaethol Estynedig, gyda 32 o fyfyrwyr yn cyflawni’r proffil graddau uchaf posibl, sef D* D* D* sy’n cyfateb i 3 A* Safon Uwch.
At hynny, llwyddodd nifer syfrdanol, sef 427 o ddysgwyr, i gyflawni’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gyda chyfradd llwyddo ragorol o 99.3%. Mae myfyrwyr Safon Uwch a BTEC wedi ymaddasu i ddysgu ar-lein, gan ganolbwyntio ar eu hastudiaethau i gyrraedd canlyniadau gwirioneddol ryfeddol unwaith eto. Mae llawer o ddosbarth 2020 wedi sicrhau lleoedd mewn prifysgolion o fri neu wedi ennill y cymwysterau i ddod o hyd i’w swyddi delfrydol.
Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC: “Rwy’n falch iawn o’r canlyniadau rydyn ni wedi’u cyflawni, yn enwedig mewn cyfnod sydd wedi bod yn un heriol mewn mwy nag un ffordd. Mae staff wedi addasu eu harferion addysgu i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn ffordd hollol newydd. Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i ymroddiad y staff a’r myfyrwyr mewn amgylchiadau na welwyd eu tebyg o’r blaen.”
Roedd Gaynor Richards MBE, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr, wrth ei bodd wrth glywed y canlyniadau a dywedodd: “Hoffwn ddweud llongyfarchiadau i bob un o’n myfyrwyr a gafodd eu canlyniadau heddiw. Rydyn ni’n ymwybodol iawn fod y flwyddyn academaidd ddiwethaf wedi diweddu mewn ffordd mor wahanol. Fodd bynnag, rydych chi nawr yn ymuno â grŵp disglair o gyn-fyfyrwyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu hastudiaethau gyda ni yng Ngrŵp Colegau NPTC. Rwy’n hynod falch o bawb, myfyrwyr a staff sydd wedi ymgorffori ethos y coleg eleni drwy fyw ac anadlu ein llinell strap ‘Mwy nag addysg yn unig’.”
Ychwanegodd Jeremy Miles AC dros Gastell-nedd: “Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr sy’n derbyn canlyniadau ar draws Castell-nedd heddiw. Nid oes unrhyw fyfyrwyr erioed wedi gorfod wynebu amgylchiadau o’r fath fel y gwnaethoch chi gyda COVID, llongyfarchiadau a phob lwc am beth bynnag yr ydych yn dewis ei wneud nesaf.”
Cyflawnodd Aaron Williams ganlyniadau rhagorol sef pedwar A * mewn Cemeg, Bioleg, Ffiseg a Mathemateg. Cafodd A hefyd yn ei Gymhwyster Project Estynedig (EPQ). Mae bellach yn mynd i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt. Pan ofynnwyd iddo am ei gyfnod yn y Coleg, dywedodd: “Roeddwn i’n caru pob munud!”
Cyflawnodd Rachel Newton-John dri A* mewn Cyfrifiadureg, Ffiseg ac Electroneg ac A mewn Mathemateg. Cafodd ei derbyn i astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe.
Enillodd gefeilliaid Kelsey a Seren Hughes BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon. Cyflawnodd y ddwy ohonynt ragoriaeth driphlyg 3 seren (D * D * D *) yn eu cymhwyster BTEC Lefel 3 sy’n gyfwerth â 3 A* ar Safon Uwch. Mae’r ddau yn mynd i astudio Chwaraeon yn y brifysgol gyda Kelsey yn cael ei dderbyn i Brifysgol De Cymru a Seren yn mynd i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Cyflawnodd Chantale Davies A *mewn Ffrangeg A *mewn Saesneg ac A* mewn Hanes yn ei harholiadau Safon Uwch ac mae ganddi le i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn Rhydychen.
Mae Jordan Hall yn mynd i Imperial College London, ei ddewis cyntaf, i astudio Cyfrifiadureg ar ôl ennill dau A *mewn Mathemateg a Mathemateg Bellach a gradd A mewn Cyfrifiadureg.
Enillodd Benjamin McDonald A* mewn Ffiseg, A* mewn Economeg ac A mewn Mathemateg ac mae nawr yn mynd i Brifysgol Caerfaddon i astudio Economeg.
Derbyniwyd Bethany Moule gan Brifysgol Caerdydd, ei dewis cyntaf, i astudio Fferylliaeth ar ôl ennill A* mewn Addysg Gorfforol, A mewn Llenyddiaeth Saesneg, A mewn Bioleg a B mewn Cemeg.
Cyflawnodd Lloyd Williams A* mewn Mathemateg ac A* mewn Bioleg a B mewn Mathemateg Bellach a bydd yn mynd i Gaerwysg i astudio Mathemateg.
Dywedodd Lloyd: “Mi wnes i fwynhau fy amser yn y coleg yn fawr, mae’r gefnogaeth gan ddarlithwyr drwy gydol y pandemig wedi bod yn wych.”
Mae Morgan Williams wedi penderfynu mynd yn syth i gyflogaeth ym maes Codio Cyfrifiaduron ar ôl ennill dau A* mewn Mathemateg a Ffiseg a dau A mewn Mathemateg Bellach a Chyfrifiadureg.
Enillodd Sion Jones ragoriaeth serennog driphlyg (D * D * D) yn ei gymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, yng Ngholeg Y Drenewydd. Mae Sion yn gobeithio dechrau Gradd Prentisiaeth gyda’r heddlu ym mis Ionawr neu ymuno â Phrifysgol Caerdydd i astudio Troseddeg fis Medi nesaf.
Derbyniodd Alanna Marshall D * D * D yn ei chymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Busnes ac A* yn ei Bagloriaeth Cymru. Cafodd ei derbyn i Brifysgol Abertawe i astudio Troseddeg a Chymdeithaseg.
Mae Shay Beer wedi derbyn lle ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i astudio Peirianneg Chwaraeon Modur ar ôl cyflawni rhagoriaeth driphlyg serennog, BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg.
Mae Ffion Williams yn mynd i Southampton i astudio’r gyfraith ar ôl llwyddo i ennill rhagoriaeth serennog driphlyg mewn Teithio a Thwristiaeth.
Mae Jessica Tonner yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Gwaith Cymdeithasol ar ôl derbyn rhagoriaeth serennog driphlyg, BTEC Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Enillodd Ryan d Auria ragoriaeth driphlyg D*, D*, D* mewn Cerddoriaeth ac mae’n edrych ymlaen at ddechrau ar ei radd mewn Cerddoriaeth Fasnachol yn Bath Spa.
Teleri Ottaway – D * D * D *, BTEC Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a B yn ei chymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Dywedodd hi: “Derbyniais fy nghanlyniadau heddiw ar gyfer y cwrs Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol fy mod i wedi bod yn ei astudio am y ddwy flynedd ddiwethaf. Fe wnes i ennill rhagoriaeth driphlyg gyda 3 seren ac rwy’n falch iawn o hynny, a hoffwn ddiolch i staff Coleg Y Drenewydd am eu holl help a’u harweiniad. Mae’r cwrs wedi dysgu cymaint i mi ac rwy’n teimlo ei fod wedi agor drysau i mi ac wedi rhoi cyfle i mi sylweddoli ble hoffwn i fynd yn y dyfodol.
Byddwn i’n argymell y cwrs hwn yn fawr iawn i unrhyw un sy’n ystyried ei gymryd gan ei fod yn creu cymaint o gyfleoedd ac yn bersonol rwyf wedi dysgu cymaint ohono. Fy mhennod nesaf yw dechrau gradd mewn Addysgu mewn Ysgolion Cynradd ym Mhrifysgol Caer.”
Cafodd Elis Tudor D * D * D * yn y BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon a nawr yn mynd i astudio Addysg Gynradd yn arwain at SAC ym Mhrifysgol Aberystwyth. Derbyniodd Elis Tudor ysgoloriaeth o Aber o ganlyniad i’w graddau.
Cyflawnodd Prys Eckley D * D * D * mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff. Mynd i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd ym mis Medi i astudio Addysg Chwaraeon ac Iechyd.