Daeth Bethany Townsend, 18 oed i fyw i’r Drenewydd o Nottingham. Dewisodd astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ôl i ofalwr maeth ei hannog i fynd ymhellach gyda’i haddysg yn hytrach na mynd yn syth i weithio. Er bod Bethany wedi bod yn mynd drwy gyfnod anodd ei hun, roedd ganddi ddiddordeb eisoes mewn helpu eraill ac roedd am ddysgu mwy am iechyd meddwl. Apeliodd y cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol ati ac mae hi bellach wedi cwblhau’r cwrs dwy flynedd.
Dywedodd Bethany: “Rwyf wedi mwynhau’r cwrs. Mwynheais yn arbennig fynd ar y lleoliadau megis i Ysgol Cedewain ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol. Roeddwn yn gallu gweithio gyda llawer o wahanol bobl ifanc, pob un ag anghenion unigol ac roeddwn yn gallu meithrin fy sgiliau cyfathrebu a ffyrdd o gefnogi pobl.”
Eglurodd Bethany hefyd sut roedd hi’n teimlo’n fwy cartrefol gyda dysgu tra’n gwneud gwaith ymarferol yn hytrach na gwaith papur. Aeth ymlaen i ddweud: “Rwy’n teimlo bod lleoliad wedi fy helpu i dyfu mwy fel unigolyn ac wedi rhoi cyfle i mi ddangos fy sgiliau.”
Mae’r cwrs yn cynnwys llawer o ffyrdd o ddysgu, gan gynnwys digwyddiadau, ymgyrchoedd a gwibdeithiau. Mae’r grŵp wedi ymweld â Mosg yn Birmingham a’r Amgueddfa Gaethwasiaeth Ryngwladol yn Lerpwl. Dywedodd Bethany: “Mwynheais y daith aethom arni i Lerpwl. Dysgon ni yno am gaethwasiaeth a diwylliannau gwahanol i’n helpu i feithrin dealltwriaeth o’r gorffennol.”
Siaradodd Bethany yn frwd am y gefnogaeth a gafodd gan diwtoriaid. “Rwyf wedi cael cefnogaeth enfawr gan fy nhiwtoriaid. Gyda llawer yn digwydd yn fy mywyd gwerthfawrogais fod ganddynt lawer o ddealltwriaeth tuag at fy amgylchiadau, yn enwedig drwy sefyllfa Covid 19. Cefais fod un tiwtor wedi fy nghefnogi’n fawr wrth iddi aros ar-lein y tu allan i amser y coleg i’n helpu gyda’n haseiniadau a phe baem yn cael trafferth gyda’r unigedd hefyd. At hynny, roeddwn yn gallu cael cymorth ychwanegol gan gymorth i fyfyrwyr gan fy mod wedi cael help gydag aseiniadau a phethau ychwanegol fel sefyllfaoedd gyda gwaith a’r amserlen.”
Yn ystod blwyddyn gyntaf Bethany roedd ganddi lawer i ymdopi ag ef yn ei bywyd cartref. Er ei bod yn gyfnod annifyr iddi gyda chartref newydd, swyddi newydd, ac angen am gymorth dysgu, roedd yn gallu ymateb i’r heriau a gyflwynwyd iddi. Ymgollodd mewn gweithgareddau newydd i gefnogi ei llesiant a’i diddordebau a hefyd i ennill arian. Daeth yn gynrychiolydd ieuenctid i’r eglwys leol ac ymunodd â chôr. Cymerodd ddwy swydd i gynilo arian ar gyfer gwersi gyrru a char, ac astudiodd yn galed ar yr un pryd. Fodd bynnag, wrth fynd i flwyddyn dau penderfynodd ganolbwyntio mwy ar ei gwaith coleg a rhoi’r gorau i rai o’i gweithgareddau ychwanegol. Derbyniodd hefyd y cymorth anghenion dysgu ychwanegol a gynigiwyd gan y Coleg a dywedodd ei bod wedi bod yn anodd iddi ei dderbyn i ddechrau gan ei bod yn berson annibynnol. Fodd bynnag, talodd ei dewisiadau ar eu canfed ac roedd yn gallu canolbwyntio’n well a rhagori ymhellach yn ei hastudiaethau.
Dywedodd Bethany y byddai’n argymell y cwrs i eraill. “Mae’n gwrs gwych – byddwch yn dod o hyd i ffrindiau a fydd gyda chi bob amser. Mae’n gwrs anodd ac mae’n rhaid i chi roi llawer o’ch amser iddo, ond ar gyfer y dyfodol, mae’n wych cael y sgiliau a enillais ohono.”
Mae Bethany bellach yn gobeithio mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.