Cyflawnodd Conor Drain y graddau uchaf yn y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog. Cyflawnodd Conor, 19 oed a fagodd angerdd gwirioneddol dros chwaraeon a ffitrwydd ragoriaeth serennog driphlyg yn ei fodiwlau theori ac ymarferol.
Mae Conor yn mynd ymlaen i ddweud: “Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich gwybodaeth gyda’r cwrs yn cynnwys cydbwysedd da o ran aseiniadau theori ac ymarferol.”
Drwy gydol y cwrs llwyddodd Conor i gydbwyso ei waith coleg yn ogystal â swydd ran-amser lle mae’n parhau i weithio nes iddo ymgeisio am yrfa gyda’r Llu Awyr Brenhinol. Roedd Conor yn gallu cael profiad gwerthfawr drwy hyfforddi plant mewn ysgolion cynradd lleol, a thrwy hyn cafodd gyfleoedd diddiwedd i wella ei sgiliau.
Ychwanegodd: “Fe wnes i fwynhau’r aseiniadau ymarferol fwyaf gan fy mod yn dysgu mwy mewn gwaith ymarferol nag rwy’n gwneud gyda gwaith theori. Roedd y cydbwysedd rhwng y ddau yn gweithio i mi ac mae’r Coleg wedi fy helpu i wella fy set sgiliau mewn amgylcheddau gwaith ac amgylcheddau cymdeithasol. Mae’r Coleg hefyd wedi fy helpu i fagu hyder ynof fi fy hun a gwthio fy ffiniau.”
Da iawn Conor ar dy ganlyniadau gwych!