Mae Academi Chwaraeon Llandarcy, a drawsnewidiwyd yn ysbyty maes dros dro yng nghanol y pandemig coronafirws, yn cael ei ddychwelyd i Grŵp Colegau NPTC. Mae’n dilyn penderfyniad gan benaethiaid iechyd i symud yr holl welyau i un safle ar Ffordd Fabian. Diolch byth, nid oedd angen yr ysbyty dros dro yn Llandarcy, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cyhoeddi bod yr adeilad bellach yn cael ei drosglwyddo yn ôl wrth i’r tymor coleg newydd ddechrau. Yn ogystal â myfyrwyr, mae’r cyfleuster hefyd ar agor i’r gymuned fel cyfleuster hamdden a chwaraeon ac yn cael ei ddefnyddio gan lawer o sefydliadau chwaraeon. Mae’r Coleg wedi gweithio’n agos gyda’r bwrdd iechyd i ddarparu cyfleusterau dros dro i aelodau a defnyddwyr a bydd y rhain yn parhau i weithredu nes bydd y cyfleuster yn cael ei adfer.