Edrychon ni yn ôl ar ble mae rhai o’n myfyrwyr wedi mynd a sut maent wedi defnyddio’r sgiliau a ddysgon nhw yn y coleg i ddechrau antur newydd.
Mae Jamie Smith a Luc Zimmer, cynfyfyrwyr Lefel 3 mewn TG yng Ngholeg Bannau Brycheiniog sydd hefyd yn ffrindiau da iawn yn dweud wrthym am ble maen nhw nawr. Mae Jamie, 21 oed, yn brentis ar gyfer cwmni anrhegion ar-lein pwrpasol Outdoor 365 gyda saith gwefan e-fasnach wahanol yn cael eu rhedeg ganddynt ar-lein. Dechreuodd Jamie yn y coleg yn nerfus iawn yn ogystal â bod yn newydd i’r gymuned. Roedd ei amser yn y coleg wedi gwneud iddo deimlo bod croeso iddo a’i fod yn rhan o gymuned.
Mae Jamie, sy’n cadw mewn cysylltiad rheolaidd â’i ddarlithydd blaenorol Helen Griffiths yn siarad yn frwd am gefnogaeth ei ddarlithydd ac yn mynd ymlaen i ddweud: “Y peth gwych am astudio am y cymhwyster hwn yw eich bod yn cael blas ar lawer o feysydd TG er mwyn i chi gael syniad o ran pa faes o TG yr hoffech fynd iddo ar ôl y cymhwyster, fel graffeg a gemau fideo.”
“Yn ogystal â’r cymhwyster TG, helpodd y cwrs hwn fi i fagu hyder, gweithio gydag eraill a bodloni terfynau amser ar gyfer aseiniadau – mae’r rhain i gyd yn briodoleddau pwysig iawn sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth.”
Yn ystod cyfnod Jamie yn y coleg roedd yn ansicr ynghylch pa lwybr gwaith yr oedd am ei ddilyn. Ar ôl cyflawni gradd uchel yn yr uned E-Fasnach, roedd yn gwybod fod hyn yn rhywbeth yr oedd am ymchwilio iddo ymhellach. Roedd y sgiliau a fagodd megis sut i lenwi taenlenni a defnyddio Excel i safon uchel wedi rhoi mantais iddo wrth wneud cais am ei swydd.
Cafodd Luc, sy’n astudio SeiberDdiogelwch ym Mhrifysgol De Cymru, un o’n prifysgolion partner, flas ar yr amrywiaeth o feysydd mewn IT wrth astudio’r cwrs lefel 3 ym Mannau Brycheiniog. Ychwanega Luc, sy’n bedair ar bymtheg oed: “Roeddwn i’n gallu profi’r dyfroedd a phenderfynu beth oeddwn i’n ei fwynhau a beth doeddwn i ddim yn rhy hoff ohono. Fe’m helpodd hefyd i ddatblygu fy sgiliau, megis ysgrifennu fy adroddiad, hyd at safon academaidd uwch a oedd yn ofynnol ar gyfer prifysgol.”
Yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Bannau Brycheiniog roedd Luc yn gallu paratoi ar gyfer y brifysgol wrth i’r tiwtoriaid ei drin â pharch fel oedolyn, ac ychwanegodd: “Mae hyn yn eich helpu i feddwl yn y ffordd gywir ac yn eich paratoi i weithio ar eich pen eich hun fel oedolyn, tra’n dal i gael profiad addysgu priodol.”
Ychwanegodd Luc, fu’n ymdopi â’i waith rhan-amser mewn siop goffi leol a gwaith coleg: “Fy nwy flynedd yng Ngrŵp Colegau NPTC oedd dwy o flynyddoedd gorau fy mywyd. Fe wnes i gwrdd â rhai o’r bobl orau a dysgais rai sgiliau anhygoel yr wyf yn dal i’w defnyddio hyd heddiw. Roedd gen i’r tiwtoriaid gorau y gallai unrhyw fyfyriwr fod wedi gofyn amdanynt erioed. Roedd adegau hwyliog bob amser a chyfleoedd o hyd i wneud neu ddysgu rhagor.”