Yn gynharach Eleni enillodd Jess Jones, myfyriwr arlwyo o Goleg Y Drenewydd AUR yn y gystadleuaeth Melysion a Patisserie WorldSkills. Yn anffodus cafodd y seremoni wobrwyo ei chanslo o ganlyniad i gyfyngiadau Covid, ond derbyniwyd ei thystysgrif a’i throffi ganddi yn ddiweddar.
Dyluniwyd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru i godi proffil sgiliau yng Nghymru. Wrth ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae’r gystadleuaeth yn helpu i hybu sgiliau gweithlu’r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn rhan o WorldSkills gyda llawer o gystadleuwyr yn symud ymlaen i gystadlu yn y cystadlaethau WorldSkills.
Dywedodd Mandy Carter, darlithydd arlwyo: ‘Rydyn ni’n hynod o falch o Jess, gweithiodd yn galed i ymarfer y prydau o fwyd ar gyfer y Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a dwi wrth fy modd ei bod hi wedi cyflawni i’r eithaf gan ennill medal aur. Mae’n siomedig na fydd modd iddi symud ymhellach ymlaen ar hyn o bryd o ganlyniad i’r sefyllfa Covid, sut bynnag mae Jess yn ddigon ifanc i barhau i anelu at ennill lle yn Nhîm y DU yn y dyfodol.’ Dywedodd Mandy hefyd. ‘Bydden ni’n annog unrhyw fyfyriwr ifanc sy’n fodlon treulio’r amser a gwneud yr ymdrech i gystadlu yn y cystadlaethau WorldSkills. Mae’n brofiad boddhaus.’
Mae sgiliau Melysion a Patisserie yn rhoi’r arfau angenrheidiol i unigolion ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus fel pen-cogyddion crwst. Mae pobl sy’n hoff iawn o goginio hefyd yn cael budd o fynychu’r cyrsiau Melysion a Patisserie yr ydym yn eu cynnig, er mwyn creu detholiad o bwdinau, bisgedi, bara ac ati.
Bydd cyfle i Jess fynd ymlaen i gystadlu yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU a gynhelir yn Birmingham NEC y flwyddyn nesaf, gyda’r gobaith o ennill lle ar sgwad y DU.
Pob lwc Jess!