Mae’n swyddogol, pleidleisiwyd dros Grŵp Colegau NPTC unwaith eto fel y Darparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru ac yn y deg uchaf yn y DU gyfan yn y Gwobrau Ymadawyr Ysgol 2020 yn ddiweddar.
Roedd golwg ychydig yn wahanol ar y gwobrau oherwydd y pandemig cyfredol. Cawsant eu cynnal yn rithwir a’u cyflwyno gan y canwr, cyflwynydd teledu, adroddwr a model Rylan Clark-Neal a’u cynnal gan Paul Harris a Jack Denton, cyd-sylfaenwyr All About School Leavers.
Mae’r Gwobrau Ymadawyr Ysgol yn unigryw, yn yr ystyr bod mwyafrif yr enillwyr yn cael eu henwebu oherwydd adborth a roddir yn uniongyrchol gan brentisiaid sydd wedi cofrestru ar eu rhaglenni, yn hytrach na dibynnu ar banel beirniaid annibynnol.
Mae’r gwobrau’n dathlu’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant gorau i ymadawyr ysgol ar raglenni prentisiaeth. Dyma’r rhestr fwyaf o gyflogwyr sy’n cynnig y prentisiaethau gorau a’r cyfleoedd gorau i ymadawyr ysgol yn y DU, ac, yn allweddol, mae’n helpu pobl ifanc a’r rhai sy’n dylanwadu arnynt i wneud penderfyniadau allweddol am eu gyrfa.
Cafodd Grŵp Colegau NPTC hefyd ei roi yn yr ail safle o ran Coleg Addysg Bellach Gorau ar gyfer Hyfforddiant Prentisiaethau yn y DU a’r degfed yn y DU am y Profiad Dysgu Gorau.
Roedd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC wrth ei fodd i glywed y newyddion bod y Coleg wedi cyrraedd y brig yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Dywedodd:
“Mae cael eich enwi fel y prif ddarparwr hyfforddiant yng Nghymru ac yn un o’r goreuon yn y DU am yr ail flwyddyn yn olynol yn drawiadol iawn, ond pan fydd yn rhywbeth y mae ein myfyrwyr wedi pleidleisio drosto’n annibynnol, mae hynny’n ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig. Ni chawsom unrhyw fewnbwn ac nid ydym wedi treulio amser yn gwneud cais am hyn, felly mae hyn yn newyddion da iawn i ni ac yn dyst i waith caled ac ymroddiad y staff yng Ngrŵp Colegau NPTC.”
Meddai Jack Denton, cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd AllAboutSchoolLeavers.co.uk:
“Ymgeisiodd dros 150 o gyflogwyr a dros 100 o ddarparwyr hyfforddiant yn y Gwobrau Ymadawyr Ysgol eleni. Mae ansawdd y ceisiadau eleni wedi bod yn uchel iawn ac mae’n galonogol gweld cynifer o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn cynnig cyfleoedd, hyfforddiant, mentora a chefnogaeth arbennig i bobl ifanc.”
Mae’r 100 Cyflogwr Gorau a’r 80 Darparwr Hyfforddiant Gorau yn seiliedig yn gyfan gwbl ar farn prentisiaid a hyfforddeion sy’n ymadawyr ysgol o 100 o sefydliadau yn y DU.
Cwblhaodd prentisiaid arolygon yn dadansoddi popeth am eu cyflogwyr a’u rhaglenni hyfforddiant, o ddatblygu sgiliau a dilyniant gyrfa i hyfforddiant a diwylliant y cwmni.