Gofynnwyd i Tilly Davies, Myfyriwr Chwaraeon Lefel 3 o Grŵp Colegau NPTC ymuno â phanel ymgynghorol Pobl Ifanc yn Arwain Cymru, mewn partneriaeth â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw cyllidwr mwyaf gweithgarwch plant a phobl ifanc ledled y DU. Mae dros draean o’i chyllid yn mynd i’r grwpiau lleiaf ar lawr gwlad, ac maent hefyd yn ariannu elusennau mawr DU gyfan i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ffynnu. Eu cred gref yw, pan fydd pobl ifanc yn arwain, mae cymunedau’n ffynnu. Felly, yng Nghymru, maent wedi recriwtio 10 o bobl ifanc deinamig i weithio’n agos gyda nhw dros y misoedd nesaf.
Mae Tilly, sy’n 17 oed, yn astudio Chwaraeon yn Academi Chwaraeon Llandarcy ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda’r Gweilch yn y Gymuned yn cefnogi’r gymuned trwy rygbi a chwaraeon eraill, yn enwedig trwy’r prosiect ‘TACKLE’ sy’n fenter arloesol ar y cyd rhwng y pedwar tîm proffesiynol yng Nghymru a PRW. Nod y cynllun yw cefnogi pobl ifanc 14-16 oed i ddatblygu sgiliau newydd fel eu bod yn barod i gael gwaith neu fynd i addysg bellach ar ôl ysgol.
Mae Tilly, sydd hefyd yn rhan o’r Academi Pêl-rwyd yn Llandarcy, yn gobeithio mynd i’r brifysgol ar ôl Coleg. Roedd hi wrth ei bodd gyda’r penodiad, a dywedodd:
“Trwy’r tîm Pobl Ifanc yn Arwain Cymru, rwy’n gobeithio defnyddio chwaraeon i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru i bobl ifanc.”