Mae Grŵp Colegau NPTC ar ei ffordd i fod yn ganolfan hyfforddi un stop i fodloni gallu ynni a chlyfar yng Nghymru, gan gyflwyno darpariaeth sgiliau newydd.
Gydag adeiladu’n well nawr yn thema gyfredol, yng Ngrŵp Colegau NPTC, yr un yw’r nod. Yn dilyn y newyddion diweddar o ran partneriaeth y Coleg â’r Gymdeithas Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu (BESA) ac Elmhurst Energy, mae’r Coleg yn falch o gyhoeddi partneriaeth hyfforddi gyntaf Cymru gyda CEDIA, sefydliad hyfforddi byd-eang, a fydd yn lleoli’r Coleg wrth wraidd cyflwyno sgiliau o ansawdd trwy’r partneriaethau hyn, o ran yr hyfforddiant sydd ei angen i ddarparu cartrefi’r dyfodol.
Mae CEDIA yn ganolbwynt pwysig ar gyfer technoleg breswyl, sy’n darparu addysg flaengar i aelodau, yn datblygu safonau i sicrhau’r lefelau uchaf o broffesiynoldeb, ac yn gweithredu fel unig gorff ardystio’r diwydiant. Prif amcan strategol CEDIA yw darparu addysg orau a mwyaf cymhellol y diwydiant a darparu llwybrau gyrfa sy’n arwain at ardystio ac, yn bwysicaf oll, llwyddiannau unigol. Ei nod yw creu fframwaith ar gyfer datblygu gweithlu medrus yn gynaliadwy trwy ganolbwyntio ar ddenu talent ifanc newydd i’r diwydiant. Mae CEDIA yn hybu cydweithrediad â phenseiri, dylunwyr, adeiladwyr a pherchnogion tai i ddarparu datrysiadau technoleg sy’n caniatáu i deuluoedd brofi eu cyfnodau gorau mewn bywyd yng nghysur eu cartrefi eu hunain.
Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i gyflawni anghenion y sector tai modern, i ddarparu ar gyfer y dyfodol, cynaliadwyedd a budd i’r gymuned. Mae hyn yn golygu bod angen i ni weithio gyda phartneriaid, sydd â chydnabyddiaeth a gallu amlwg yn y DU, neu yn yr achos hwn, yn fyd-eang. Trwy’r bartneriaeth â CEDIA wrth iddo ddatblygu, bydd yn arwain at ddarparu rhaglenni hyfforddi newydd, technolegau newydd a chyfleoedd, yn ogystal â datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu cartrefi gwyrdd clyfar effeithlon. Mae cyfle hefyd i ddatblygu gyda CEDIA ganolfan hyfforddi, a fydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad wrth ddarparu a datblygu gallu hyfforddi newydd. Mae hyn yn dangos yn glir sut y gall colegau arloesi a gweithio gyda’r sector diwydiannol, i gyflawni’r partneriaethau sgiliau sy’n cyflawni dros Gymru.”
Dywedodd Matt Nimmons, Rheolwr Gyfarwyddwr CEDIA: “Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Colegau NPTC i ddatblygu’r sector, o ran sgiliau a chyfleoedd ym maes cartrefi clyfar yng Nghymru. Fel rhan o’r bartneriaeth hon, rydym yn gobeithio darparu hyfforddiant pwrpasol a mabwysiadu ein cymhwyster arloesol yng Nghymru. Yn ogystal, hoffem archwilio rôl y diwydiant cartrefi clyfar yn y prosiectau Cymreig allweddol y mae’r Grŵp yn eu cefnogi, megis ôl-osod wedi’i optimeiddio a ‘Cartrefi fel Gorsafoedd Pwer’. “