Roedd Natalie Downton, myfyriwr blaenorol ac sydd bellach yn fyfyriwr gradd yn teimlo’n gartrefol ar ôl penderfynu parhau â’i hastudiaethau yng Ngholeg Bannau Brycheiniog (rhan o Grŵp Colegau NPTC).
Symudodd Natalie, yn bedair ar bymtheg oed, i Aberhonddu ychydig ar ôl ei TGAU. Wedi cael cipolwg ar fyd busnes, roedd Natalie eisiau dysgu mwy. Ar ôl edrych o gwmpas ar safleoedd addysg ôl-16 eraill roedd hi’n teimlo mai Bannau Brycheiniog oedd ei hoff un ac mae’n mynd ymlaen i ddweud: “Roeddwn yn edrych o gwmpas i weld beth oedd yn iawn i fi, ac ar ôl cael cyfweliad gyda fy narlithwyr ynglŷn â dechrau’r cwrs, roeddwn i’n gwybod mai hwn oedd y lle i fi. Roedden nhw’n galonogol iawn a gallech weld eu bod nhw eisiau’r gorau i fi. ”
Mae Natalie, a astudiodd Tystysgrif Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Busnes, yn mynd ymlaen i ddweud: “Mae cymaint o amrywiaeth ar y cwrs fel cyfraith droseddol a busnes, recriwtio llawer mwy sy’n rhoi cyflwyniad i fyd busnes.”
Ychwanegodd Natalie, a basiodd ei chwrs gyda theilyngdod yng nghanol y pandemig: “Fe wnaeth y darlithwyr bopeth mor hawdd, roedden nhw bob amser wrth law hyd yn oed o dan yr amgylchiadau presennol, roedd yn rhyfedd addasu i weithio gartref, ond gwnaeth y darlithwyr sicrhau bod popeth yn teimlo’r un peth ag arfer.”
Ym mis Hydref 2020, cychwynnodd Natalie BA (Anrh) mewn Rheoli Busnes a TG, cwrs tair blynedd yng Ngholeg Bannau Brycheiniog. Dywedodd Natalie: “Penderfynais fod aros yng Ngholeg Bannau Brycheiniog jest yn teimlo’n iawn. Roeddwn i eisiau mynd i’r brifysgol, ac ar ôl edrych ar brifysgolion amrywiol, Coleg Bannau Brycheiniog oedd yr un roeddwn i eisiau aros ynddo. ”
Roedd yn amlwg i Natalie fod gan Fannau Brycheiniog bopeth yr oedd ei eisiau arni a’i bod yn gallu datblygu ei gwybodaeth am fyd busnes ar stepen ei drws. Ychwanegodd: “Roeddwn i’n gyfarwydd â’r darlithwyr ac roedden nhw’n fy adnabod yn barod, roedd yn benderfyniad hawdd i fi aros fan hyn ac ennill rhagor o gymwysterau.”
Mae Natalie yn awyddus i ddatblygu ei gwybodaeth a dod o hyd i’r llwybr y mae am ei ddilyn ar ôl y cwrs gradd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyrsiau ar gyfer busnes, Cliciwch yma i gael mwy