Roedd myfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog (Rhan o Grŵp Colegau NPTC) yn llawn ysbryd y Nadolig wrth iddynt ddod at ei gilydd i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.
Daeth myfyrwyr o’r Coleg gyda chymorth rheolwr y campws, Kevin Morris a’r darlithydd, Sara Powell at ei gilydd i roi rhywbeth i bobl sydd mewn argyfwng. Mae’r myfyrwyr wedi bod yn casglu eitemau amrywiol ar gyfer y banc bwyd lleol.
Ychwanegodd Sara: “Rydyn ni wedi gwneud hyn mewn blynyddoedd blaenorol gyda gwahanol grwpiau o fyfyrwyr ond oherwydd ymateb myfyrwyr a staff rwy’n credu y gallai ddod yn draddodiad blynyddol.”
Casglwyd ystod o fwydydd fel pwdinau Nadolig, byrbrydau Nadolig a llawer mwy o hanfodion cartref eisoes.
Yn ôl Kevin Morris: “Ar ddiwedd blwyddyn sydd wedi bod yn anodd mewn sawl ffordd, mae staff a myfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog wedi bod yn brysur yn rhoi eitemau o fwyd i’r elusen o’u dewis, Banc Bwyd Aberhonddu. Gan fynd i mewn i ysbryd yr ŵyl a chofio am y gwir lawenydd o roi, mae’r staff a’r myfyrwyr wedi mwynhau casglu a danfon eitemau yr oedd mawr eu heisiau. Gyda’n bin casglu’n gorlifo â nwyddau roeddem i gyd yn falch iawn o gymryd rhan a chofio bod calon y Nadolig yn galon sy’n rhoi, calon agored eang sy’n meddwl am eraill yn gyntaf.
“Rydyn ni’n gwneud bywoliaeth yn ôl yr hyn rydyn ni’n ei gael, ond rydyn ni’n gwneud bywyd yn ôl yr hyn rydyn ni’n ei roi”.
Gall pobl gyfrannu at lawer o allfeydd lleol yn Aberhonddu os na allant roi i flwch bwyd y Coleg. ee Morrison’s, Co-Op a llawer o fanciau’r stryd fawr.
Dewisodd myfyrwyr a staff yng Ngholeg Y Drenewydd (Rhan o Grŵp Colegau NPTC) Ganolfan Argyfwng Teulu Trefaldwyn fel eu helusen ddewisol ar gyfer y casgliad Nadolig eleni. Diolchodd Fleur Franz-Morgan, Swyddog Cyswllt Cymunedol yn y Ganolfan Argyfwng i bawb am eu rhoddion hael a fydd yn mynd tuag at ddarparu cefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig yng Ngogledd Powys