Mae Fferm Fronlas wedi croesawu rhai newidiadau cyffrous ac arloesol i wella darpariaeth addysgu’r sector amaeth eleni.
Y fferm yw fferm gymysg 140 hectar Coleg NPTC yn y Drenewydd, Canolbarth Cymru. Mae’r Coleg yn darparu cyrsiau HND, Lefel 2 a 3 mewn Amaethyddiaeth ar y Tir ac Amaeth-Beirianneg yn ogystal â darpariaeth cyswllt ysgol 14-16.
Mae ystod eang o gyrsiau byr hefyd ar gael fel TGCh i Ffermwyr a’r Defnydd Diogel o ATVs, Tele-drinwyr, Plaladdwyr, Dip Defaid, a Meddyginiaethau Milfeddygol. Yn ddiweddar bu newidiadau i’r system ffermio yn Fronlas er mwyn parhau i ddarparu arfer sy’n arwain y sector yng Nghanolbarth Cymru a’r ardal gyfagos.
Mae gwartheg sefydlogi wedi’u cyflwyno i wella proffidioldeb y fenter cig eidion, gan ganiatáu i’r coleg barhau i ddangos bod gan systemau cig eidion a defaid cymysg rôl hanfodol yng Nghymru, yn economaidd ac yn amgylcheddol.
Eleni, tyfwyd betys porthiant er mwyn cadw mamogiaid y tu allan yn y gaeaf ar ôl i ddadansoddiad busnes gan Cyswllt Ffermio ddatgelu costau bwyd anifeiliaid fel maes i’w wella. Ar ôl pori’r betys, bydd y ddiadell yn ŵyna mewn sied ddefaid o’r radd flaenaf sydd wedi’i hadeiladu o’r newydd ac sydd wedi’i chynllunio i hyrwyddo lles defaid trwy ymgorffori nodweddion dylunio blaengar.
Gan barhau â’r thema arloesi, mae tri aelod o staff addysgu’r Coleg ar hyn o bryd yn ymgymryd â graddau meistr. Gyda hyn, gallwn sicrhau yr addysgir gwybodaeth effeithiol am yr elfennau arloesi ar y fferm, yn ogystal â thechnolegau sydd ar y gorwel, gan gyfoethogi dysgu ein myfyrwyr hyd eithaf ein gallu.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r arloesi yn Fferm Fronlas?
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Sue Lloyd Jones ar 01686 614289 neu e-bostiwch sue.lloyd-jones@nptcgroup.ac.uk
Porwch trwy ein cyrsiau amaeth, Cliciwch I Gael Gwybod Rhagor
Twitter @ffermfronlasfarm
Facebook @ffermfronlasfarm