Efallai bod COVID wedi atal llawer o weithgareddau, ond un peth sydd heb ddod i ben yw datblygiad proffesiynol staff yng Ngrŵp Colegau NPTC. O gyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i sesiynau hyfforddi ‘Cynnwys Myfyrwyr’, cyrsiau digidol a llawer rhagor, mae staff addysgu a chymorth wedi cadw i fyny â datblygu eu sgiliau er gwaethaf yr holl heriau y maent yn eu hwynebu gyda’r pandemig.
Mae’n cadw’r tîm datblygu staff yn brysur a hefyd yn cynhyrchu canlyniadau gwych a rhywfaint o gystadleuaeth iach. Eisoes, eleni, mae mwy na 450 o staff wedi cwblhau hyfforddiant e-ddysgu Ymwybyddiaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r tîm Gwasanaethau Llyfrgell oedd y cyntaf i gael statws Cyfeillgar i Awtistiaeth ar ôl cyflawni’r safon ofynnol yn yr hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth a drefnwyd gan y Coleg. Disgwylir i dimau eraill ddilyn a gobeithir yn yr wythnosau nesaf y bydd mwy a mwy o dimau yn cyrraedd yr un lefel o gwblhau ac yn ennill yr un statws.
Datblygwyd yr adnoddau mewn partneriaeth â phobl awtistig, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol a’u nod yw cynyddu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o awtistiaeth i’r rheini sy’n gweithio mewn addysg bellach ac i ddarparu llawlyfr ymarferol i fyfyrwyr awtistig.
Dywedodd Rheolwr Datblygu Staff y Coleg, Samantha Owen, ei bod wrth ei bodd gyda’r niferoedd sy’n manteisio ar y cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael.
“Mae’n gyflawniad gwych gan y tîm Gwasanaethau Llyfrgell ac rwy’n siŵr y bydd pawb yn ymuno â mi i’w llongyfarch. Mae mor ysbrydoledig bod staff yn defnyddio’r amser anodd hwn i ymgysylltu â dysgu a datblygu proffesiynol. Yn ogystal â dysgu sgiliau newydd sy’n ofynnol yn y byd newydd hwn maent hefyd yn ymgysylltu ag ystod o gyfleoedd hyfforddiant i gynyddu eu hymwybyddiaeth a chefnogi cydweithwyr a dysgwyr”.