Mae adroddiad diweddar Coleg y Dyfodol ar gyfer Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd mynediad at ddysgu gydol oes yng Nghymru, ochr yn ochr â gweddill y DU. Mae dysgu galwedigaethol yn rhan hanfodol o’r dirwedd hon, gan arfogi dysgwyr â sgiliau ymarferol a gwybodaeth i’w paratoi ar gyfer eu gyrfa, a’u galluogi i uwchsgilio trwy gydol eu bywydau gwaith.
Gwnaethom siarad â Saffron Herbert, cyn-fyfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol BTEC o Goleg Castell-nedd sydd bellach yn astudio nyrsio pediatreg ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste.
Ym mis Medi 2018 fe ddechreuais gwrs Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol BTEC yng Ngholeg Castell-nedd. O’r dechrau’n deg, fy mwriad oedd dod yn nyrs bediatreg gymwysedig.
Roedd y flwyddyn gyntaf yn y coleg yn wahanol iawn i’r ysgol gyfun gan fod y cwrs yn seiliedig ar aseiniadau. Fodd bynnag, dyma un o’r prif resymau pam y dewisais gyflawni’r cwrs. Fe wnes i fwynhau gwneud gwaith yn seiliedig ar aseiniadau yn hytrach nag arholiadau diwedd blwyddyn gan fy mod i’n teimlo nad oedd y pwysau ac adolygu ar gyfer arholiadau yn addas i mi. Dros y ddwy flynedd ar y cwrs, cyflawnais lawer o wahanol leoliadau, gan gynnwys gweithio mewn cartref gofal, crèche ac mewn ysgol. Fe wnes i fwynhau fy lleoliadau yn fawr trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig y rhai a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant gan mai gofalu am blant yw fy angerdd a’m bwriad yn y dyfodol.
“Gofalu am blant yw fy angerdd”Rhoddodd y lleoliadau a wnes i lawer o brofiad i mi o sut beth yw gweithio yn y byd go iawn. Roedd rhai dyddiau’n heriol ond hefyd yn llawer o hwyl. Ar ôl blwyddyn o waith caled iawn a pharatoi, enillais ddwy radd ragoriaeth.
Yn ystod ail flwyddyn y cwrs, dechreuodd y gwaith fynd yn anoddach a dod yn fwy heriol. Fodd bynnag, gyda chefnogaeth fy nhiwtor a darlithwyr eraill y coleg roedd yn haws wynebu’r heriau a chwblhau’r gwaith. Ers y flwyddyn gyntaf, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau dod yn nyrs bediatreg, felly o ran dewis opsiynau gyrfa roeddwn i eisoes wedi’u dewis a oedd yn gwneud pethau’n haws i mi.
Gyda help fy nhiwtor, llwyddais i ymchwilio i wahanol brifysgolion a chyrsiau i weld pa un oedd fwyaf addas i mi. Fe wnes i gais am bum prifysgol wahanol gydag Abertawe yn fy meddwl fel fy newis cyntaf. Fodd bynnag, rwy’n gwybod y gall dod yn nyrs bediatreg fod yn anodd iawn gan ei fod yn gwrs cystadleuol i gael lle arno, a dim ond ychydig o leoedd sydd. Er mwyn ceisio cael lle yn y brifysgol, dechreuais baratoi yn gynnar iawn. Gyda chymorth fy nhiwtor a’r coleg, roeddwn i’n gallu ysgrifennu fy natganiad personol yn barod ar gyfer pob prifysgol y gwnes i gais amdani. Yn fuan ar ôl imi wneud hyn cefais gynnig cyfweliadau gan yr holl brifysgolion. Roeddwn i ar ben fy nigon gyda hyn gan nad oeddwn yn disgwyl clywed yn ôl gan bob un ohonynt, gan fy mod yn gwybod pa mor anodd yw cael cyfweliad ar gyfer nyrsio pediatreg.
Er mwyn cael lle ar gyrsiau’r brifysgol, roedd angen i mi orffen gyda DDM ar ôl yr ail flwyddyn. Roedd hyn yn golygu fy mod wedi gweithio’n galed iawn er mwyn gallu cyflawni’r graddau hyn. Fe wnes i baratoi llawer ar gyfer pob cyfweliad, tra hefyd yn cynnal cyfweliadau ymarfer gyda fy nhiwtor yn y coleg. Ar ôl ymweld â phob prifysgol, roeddwn bellach wedi newid fy meddwl o ran ble roeddwn i eisiau astudio nyrsio plant. Fy mwriad yn awr oedd astudio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Aeth fy nghyfweliad yno yn arbennig o dda ac roeddwn i wrth fy modd â’r brifysgol. Yn fuan wedyn, cefais gynnig lle amodol yn dibynnu ar fy ngraddau. Er mwyn sicrhau fy mod yn cyflawni’r graddau hynny, am weddill blwyddyn dau gweithiais yn galed iawn ac roeddwn yn benderfynol iawn trwy gydol y flwyddyn. Ar ôl cwblhau blwyddyn dau, rydw i wedi cyflawni tair rhagoriaeth – rydw i wrth fy modd gyda hynny, gan i mi dderbyn cynnig cadarn i ddechrau ym Mhrifysgol Bryste. Ym mis Medi 2020, dechreuais radd nyrsio pediatreg ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Mae’r holl waith caled, y penderfyniad a’r gefnogaeth gan fy nhiwtor a darlithwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn bendant wedi talu ar ei ganfed.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.