Sefydlwyd LRC Training gan Gyngor Gwledig Llanelli ym 1988. Ei ddiben oedd darparu profiad gwaith a hyfforddiant i oedolion di-waith. Mae LRC Training yn parhau i fod yn adran sy’n ariannu ei hun o fewn Cyngor Gwledig Llanelli.
Yn 2009, ymunodd LRC Training ag Academi Sgiliau Cymru, consortiwm o ddarparwyr hyfforddiant o’r un feddylfryd, o dan arweinyddiaeth Grŵp Colegau NPTC. Mae Academi Sgiliau Cymru yn darparu ystod eang o gyfleoedd dysgu seiliedig ar waith, ar draws De a Chanolbarth Cymru, gan ddefnyddio ei chysylltiadau â Llywodraeth Cymru.
Mae LRC yn cynnig prentisiaethau ar draws ystod o feysydd gan gynnwys Gyrru Cerbydau Nwyddau, Trafnidiaeth a Logisteg, Warysau, yn ogystal â Gweinyddiaeth Fusnes a Gwasanaeth Cwsmeriaid.
Fel rhan o Wythnos Prentisiaeth Genedlaethol 2021, mae’r Post Brenhinol wedi rhannu eu profiad o ymgymryd â phrentisiaethau gyda LRC Training.
Mae’r Post Brenhinol yn un o wasanaethau hanfodol y DU a thrwy gydol y pandemig, maent wedi parhau ar agor am fusnes, gan ddarparu llinell fywyd i fusnesau a chymunedau ledled ein gwlad. Mae eu staff wedi gweithio’n galed i gasglu, prosesu a dosbarthu cymaint o barseli a llythyrau â phosib o dan amgylchiadau anodd.
Er gwaetha’r heriau ychwanegol a achoswyd gan y pandemig, gweithiodd 17 o yrwyr y Post Brenhinol ar draws De Cymru yn arbennig o galed, gan lwyddo i gyflawni eu Prentisiaeth Sylfaen mewn Gyrru Cerbydau Nwyddau yn ystod 2020.
Yn ystod hydref 2019, cofrestrodd y 17 o yrwyr allweddol hyn ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen 12 mis mewn Gyrru Cerbydau Nwyddau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, gan fod ganddynt ddiddordeb mewn datblygu eu sgiliau gyrru ac uwchraddio eu trwydded yrru i’w galluogi i yrru cerbydau nwyddau mawr. Mae’r Brentisiaeth hon wedi eu galluogi i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hyder yn broffesiynol, nid yn unig i yrru’n gywir, ond hefyd i allu paratoi’r cerbyd, llwytho a dadlwytho, a chyfrannu at wasanaeth cwsmeriaid.
Mae’r Post Brenhinol yn rhoi gwerth uchel ar y Brentisiaeth Gyrru Cerbydau Nwyddau ac yn cydnabod bod gyrwyr medrus yn helpu’r cwmni i gyflawni gwell canlyniadau, drwy wella effeithlonrwydd tanwydd, gostwng costau cynnal a chadw, gwella diogelwch gyrwyr a chreu delwedd gadarnhaol o’r cwmni. Mae niferoedd uwch o yrwyr LGV â sgiliau gwell yn darparu mwy o hyblygrwydd, gan y gellir cyflogi gyrwyr sydd â thrwyddedau LGV ar draws amrywiaeth o rolau gyrru sy’n bodoli yn y Post Brenhinol, sy’n eu helpu i ymateb yn gadarnhaol i ddigwyddiadau nas rhagwelwyd.