Mae’r aelod mwyaf newydd o’n cymuned cyn-fyfyrwyr uchel ei pharch, Dan Morris wedi rhannu ei brofiad yng Ngrŵp Colegau NPTC a’i lwyddiant gyrfaol ym maes y Gyfraith. Fe wnaethon ni ofyn ychydig o gwestiynau i Dan am ei ddewis penodol o yrfa, ei daith trwy addysg a sut y daeth i weithio yn y gyfraith ym Mhrifddinas y DU.
C – Pa gwrs (cyrsiau) wnaethoch chi eu hastudio gyda ni a phryd?
A – “Astudiais Safon Uwch mewn economeg, y gyfraith a daearyddiaeth rhwng 1993 – 1995”
C – Ble ydych chi’n gweithio a beth yw eich swydd?
A – “Rwy’n gyfreithiwr ac yn Bartner yn Bevan Brittan LLP, cwmni cyfraith fasnachol DU gyfan. Rwy’n gweithio o’n swyddfa yn Llundain lle rwy’n arbenigo mewn cyfreitha gofal iechyd, gan amddiffyn achosion cymhleth, gwerth uchel a rhai’n ymwneud ag ôl-effeithiau a ddygir yn erbyn y GIG a darparwyr gofal iechyd annibynnol.
Yn ddiweddar, bûm yn gweithredu ar ran Ymddiriedolaeth Ysbyty’r GIG mewn achos prawf yn y Goruchaf Lys a oedd yn ymwneud â threfniadau mam fenthyg masnachol rhyngwladol ac rwy’n cael fy nghyfarwyddo’n rheolaidd i weithio ar achosion esgeulustod gwerth miliynau o bunnoedd sy’n cynnwys gofal obstetreg, niwrolawfeddygol, ICU a gofal cardiaidd.
Mae gen i ddiddordeb ym mhob maes o gyfraith a moeseg gofal iechyd ond mae gen i ffocws penodol ar risg clinigol sy’n dod i’r amlwg a materion diogelwch cleifion sy’n codi ym meysydd iechyd digidol, deallusrwydd artiffisial a thechnoleg feddygol. Fi yw Arweinydd fy nghwmni ar gyfer cyfraith Iechyd Digidol ac rwy’n cynghori cwmnïau gofal iechyd newydd, datblygwyr apiau a chleientiaid corfforaethol mawr ar amlygiad i atebolrwydd, trefniadau yswiriant a materion anghydfod eraill.”
C – Beth ydych chi’n meddwl a ddylanwadodd arnoch chi i weithio yn y diwydiant hwn?
A – “Roedd fy niddordeb yn y gyfraith yno yn eithaf cynnar, er nad wyf yn hollol siŵr o ble y daeth yn wreiddiol gan nad oes gan unrhyw un yn fy nheulu unrhyw gysylltiadau â’r proffesiwn. Tra’n dal yn yr ysgol, gwnes i leoliad profiad gwaith mewn cwmni o gyfreithwyr yng Nghastell-nedd (LC Thomas a’i Fab, fel yr oedd bryd hynny). Datblygwyd fy niddordeb ymhellach gan ddarlithydd cyfraith Coleg Castell-nedd, Wyn Davies, a oedd bob amser yn annog ei fyfyrwyr i feddwl am y dimensiynau moesol sydd mor aml yn ymwneud ag achosion cyfreithiol – rhywbeth yr oeddwn yn ei ystyried yn hynod ddiddorol ac yr wyf wedi dod ar ei draws trwy gydol fy ngyrfa.
Cefais fy annog yn fawr hefyd yn fy astudiaethau academaidd gan fy ewythr, Martin Davies, a oedd yn gyn-ddarlithydd economeg yng Ngholeg Castell-nedd. Roedd bob amser yn pwysleisio y ffordd y gall addysg drawsnewid bywydau, ehangu gorwelion ac arwain at yrfa ysgogol a hirhoedlog.
Wrth astudio ar gyfer fy ngradd israddedig yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, cymerais fodiwl mewn cyfraith a moeseg feddygol. Gwnaeth yr achosion a astudiais yn ystod yr amser hwnnw, a ddeliodd â rhai o’r materion mwyaf heriol y mae’n rhaid i gymdeithasau fynd i’r afael â nhw – ewthanasia, erthyliad, sut rydym yn trin pobl sydd â diffyg galluedd meddyliol – ei gwneud yn glir i mi mai cyfraith feddygol oedd y maes yr oeddwn i eisiau bod yn rhan ohono. Ar ôl cwblhau fy ngradd LLB, es i ymlaen i ennill MA mewn cyfraith a moeseg feddygol yng Ngholeg y Brenin Llundain ac wedi hynny PhD mewn cyfraith feddygol ym Mhrifysgol Lerpwl. Gwnaeth yr athrawon a gefais ar bob cam o fy addysg argraff enfawr arnaf ac, am gyfnod, ystyriais ddod yn ddarlithydd y gyfraith, ac yn wir gwnes ychydig o diwtora rhan-amser tra roeddwn yn gwneud fy PhD. Yn y diwedd, fodd bynnag, cefais fy nenu at oleuadau llachar ymarfer yn y ddinas.”
C – Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gyrfa?
A – “Rwy’n mwynhau’r amrywiaeth yn y gwaith rwy’n ei wneud a’r bobl rwy’n cael gweithio gyda nhw. Un diwrnod efallai y byddaf yn cyfweld ac yn cymryd datganiadau tyst gan niwrolawfeddyg neu obstetregydd sy’n cael ei siwio; y nesaf efallai y byddaf yn siarad mewn cynhadledd ar ddatblygiadau mewn technoleg iechyd digidol; y diwrnod ar ôl hynny gallwn fod yn dal i fyny â gwaith papur a goruchwylio cyfreithwyr iau yn fy nhîm; gallwn treulio’r diwrnod canlynol yn trafod mewn cyfarfod setliad neu’n gorfod gwneud cyflwyniadau o flaen barnwr.
Nid wyf yn treulio dau ddiwrnod yn gweithio gyda’r un bobl, ond mae llawer o’m hymarfer yn y GIG ac o’i gwmpas. Rwyf bob amser wedi edmygu’n fawr yr hyn y mae ein meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn ei wneud drosom ni pan fyddwn mewn angen ac ni fu hynny erioed yn fwy amlwg nag yn ddiweddar. Rwyf wedi cael y fraint trwy gydol fy ngyrfa i weithio gyda rhai o’r clinigwyr gorau yn y wlad, p’un ai fel tystion neu arbenigwyr yn fy nghynghori ar fy achosion. Mae fy ngwaith ym maes iechyd digidol a thechnoleg iechyd wedi dangos i mi pa mor arloesol y gall ein GIG, ein prifysgolion a’n diwydiant fod.”
C – A wnaethoch chi fwynhau’ch amser yn y coleg? Beth oedd yn dda amdano?
A – “Cefais gymaint o hwyl yn y coleg – ychydig yn ormod yn ôl pob tebyg. Yn ogystal â chael rhai athrawon gwych, ysbrydoledig, cwrddais â chriw gwych o ffrindiau, yr wyf yn dal mewn cysylltiad â rhai ohonynt hyd heddiw. Roedd taith i Frwsel gyda fy nosbarth economeg i weld sefydliadau’r UE yn uchafbwynt arbennig rwy’n ei gofio, er gwaethaf cwrw Gwlad Belg! ”
C – A roddodd y coleg y wybodaeth a’r profiad i chi er mwyn mynd i’ch dewis faes / prifysgol / gyrfa?
A – “Yn sicr fe’m rhoddodd ar y llwybr cywir. Pe na bawn i wedi astudio’r Gyfraith ar Safon Uwch yn y coleg, nid wyf yn siŵr y byddwn wedi dod yn gyfreithiwr yn y pen draw. Dyna mewn gwirionedd lle cychwynnodd fy niddordeb. Cefais y graddau yr oeddwn eu hangen i fynd ymlaen i’r brifysgol a dilynodd popeth oddi yno. O fewn wythnos i gyrraedd y brifysgol, cwrddais â myfyriwr ifanc o Ffrainc a oedd ar raglen gyfnewid o Lydaw. Yn y pen draw, aeth ymlaen i fod yn fam i’m dau fab. Fel y byddwn ni gyfreithwyr camwedd yn ei ddweud: achosiaeth yw popeth!”
C – Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyrwyr cyfredol neu’r rhai sy’n ystyried dechrau yn y coleg?
A – “Anelwch yn uchel, peidiwch â gadael i neb eich digalonni na chael eich arwain i gredu nad ydych chi’n ddigon da neu nad ydych ‘o’r cefndir cywir’. Fel y mae’r arwydd y tu allan i orsaf reilffordd Abertawe yn dweud, mae ‘uchelgais yn hollbwysig’. Pan oeddwn yn iau, roeddwn yn llawn hunan-amheuaeth a theimlais nad oedd pobl fel fi yn dod yn gyfreithwyr. Diolch byth, cefnogodd fy nheulu ac athrawon fi i oresgyn yr amheuaeth honno a nawr rwy’n awyddus i gynnig cefnogaeth debyg i’r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr Cymreig.
Dechreuwch feddwl am eich gyrfa yn gynnar a byddwch yn rhagweithiol wrth edrych ar ba brofiad gwaith, lleoliadau neu interniaethau a fydd yn eich helpu i gyrraedd ble bynnag yr ydych am fynd. Rwy’n gwybod y gall cost addysg uwch ymddangos yn rhy ddrud ond mae ysgoloriaethau, cronfeydd a rhaglenni cymorth a all helpu. Unwaith eto, byddwch yn rhagweithiol wrth chwilio am y rhain. Er enghraifft, rwy’n ymwneud â sefydliad elusennol o’r enw Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund-Davies (LEDLET: https://www.ledlet.org.uk/). Pwrpas yr elusen yw cynorthwyo myfyrwyr ifanc Cymreig i ddilyn gyrfa yn y gyfraith pan fyddent fel arall yn dod i’r casgliad y byddai eu cefndir yn eu hatal rhag mynd i’r proffesiwn.
Bob blwyddyn mae LEDLET yn cynnal cynllun haf yn Llundain i hyd at 10 myfyriwr brofi’r hyn y gallai gyrfa gyfreithiol ei olygu, gyda’r ymddiriedolaeth yn talu am yr holl deithio, prydau bwyd a llety. Nod hyn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr Cymreig wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a yw gyrfa yn y gyfraith yn addas iddyn nhw. Yn 2020, gwnaethom ymuno â Sefydliad Cymru’r Gyfraith i redeg y cynllun ar yr un pryd yng Nghaerdydd ar gyfer hyd at 10 myfyriwr arall; rydym wedi ymuno â Chymru’r Gyfraith eto ar gyfer 2021. Oherwydd y pandemig, cyflawnwyd cynllun yr haf diwethaf yn gyfan gwbl o bell, a dyma’r bwriad ar gyfer cynllun 2021.”
C – Beth ydych chi’n meddwl yw manteision dilyn cwrs galwedigaethol yn hytrach na Safon Uwch neu fel arall?
A – “Er imi ddilyn y trywydd academaidd, rwy’n gwerthfawrogi nad yw at ddant pawb ac rwy’n credu y gall hyfforddiant galwedigaethol o ansawdd da fynd â chi ymhell. Dewisodd rhai o fy ffrindiau a’m cyfoedion fy hun a oedd yn y coleg gyda mi beidio â gwneud Safon Uwch ac yn lle hynny dilyn hyfforddiant galwedigaethol a phrentisiaethau ac maent wedi mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych gyda chwmnïau fel General Motors a Ford, ac adleoli mor bell i ffwrdd â Chanada lle roedd galw mawr am eu sgiliau.
Yn fy mhroffesiwn fy hun, mae cydnabyddiaeth gynyddol bod mwy nag un llwybr i yrfa yn y gyfraith. Yn fy nghwmni i, rydym yn cyflogi cyfreithwyr dan hyfforddiant sydd wedi mynd trwy’r brifysgol, a hefyd yn cynnig prentisiaeth uwch mewn astudiaethau cyfreithiol. Mae hon yn ffordd o roi profiad ymarferol go iawn i bobl o waith cyfreithiol wrth astudio tuag at gymwysterau paragyfreithiol a gweithredwyr cyfreithiol. Mae llawer o’n prentisiaid wedi mynd ymlaen i astudio ar gyfer eu Prentisiaeth Gweithredol Cyfreithiol Siartredig Lefel 6 neu’r Brentisiaeth Cyfreithiwr Lefel 7.”
C – Sut beth oedd eich taith trwy addysg? Uchafbwyntiau, isafbwyntiau, cyflawniadau, a rhwystrau?
A – “Rwy’n wirioneddol deimlo mai fy addysg sydd wedi rhoi pob dim i mi – fy ngyrfa, fy nheulu a phopeth arall a ddaw gyda hynny.”
Mae Grŵp Colegau NPTC yn ymroddedig i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir a chyflawni’ch breuddwydion!
Rydym yn darparu ystod wych o gyrsiau Safon Uwch amser llawn, cyrsiau galwedigaethol sy’n canolbwyntio ar yrfa, a phrentisiaethau mewn amgylcheddau sy’n adlewyrchu byd gwaith, a hefyd yn cynnig cefnogaeth unigol i ddiwallu’ch anghenion penodol.
At hynny, mae dewis astudio gyda ni yn golygu y bydd gennych fynediad at staff cymwys iawn sydd â chyfoeth o brofiad mewn diwydiant ynghyd ag ystod o adnoddau a chyfleoedd allgyrsiol arbennig fel ein hyb Menter a Chyflogadwyedd a’n holl Academïau Chwaraeon, Cerddoriaeth a Dawns.
Mae ymadawyr ysgol wedi pleidleisio mai Grŵp Colegau NPTC yw’r darparwr hyfforddiant gorau yng Nghymru a’r pumed orau yn y DU, yn ogystal â’r ail orau ar gyfer addysgu, yn y ‘Gwobrau Ymadawyr Ysgol 2019’.
I ddarganfod rhagor, porwch ein hystod lawn o gyrsiau Safon Uwch yma