Mae Stevie Williams wedi rhoi’r gorau i’w swydd ym myd gwasanaethau cwsmeriaid er mwyn anelu at yrfa’i breuddwydion yn dysgu peirianneg, diolch i brentisiaeth.
Cafodd Stevie, 36, o’r Goetre, Port Talbot, swydd fel technegydd a hyfforddwr peirianneg fecanyddol gyda Grŵp Colegau NPTC ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Peirianneg Fecanyddol mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (Lefel 2) a Chymhwyster Cysylltiedig â Galwedigaeth (VRQ), Lefel 2, chwe mis yn gynnar.
Erbyn hyn, mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth a VRQ Lefel 3 gan fwriadu symud ymlaen i wneud Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) a Phrentisiaeth Radd yn y dyfodol er mwyn gwireddu ei huchelgais o fod yn ddarlithydd mewn peirianneg.
Yn awr, mae Stevie wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.
Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Mae Stevie’n gwneud ei phrentisiaethau gyda’r darparwr dysgu, Pathways Training. Yn ôl Lee Hughes, asesydd a chynghorydd peirianneg fecanyddol, mae’n “brentis delfrydol”.
Dywed fod brwdfrydedd, ymroddiad ac aeddfedrwydd Stevie’n dylanwadu ar brentisiaid eraill ac ar fyfyrwyr peirianneg eraill yng Ngrŵp NPTC.
Dywedodd Lee: “Mae Stevie yn batrwm i bobl eraill ei ddilyn ac mae’r dysgwyr eraill yn ei pharchu fel hyfforddwr. Mae’n wych ei gweld yn symud ymlaen ac yn delio’n dda â’r holl waith.”
Dywed Stevie, sy’n fam i ddau o blant, ei bod yn awyddus i gael gyrfa a fydd yn cynnal ei theulu. Yn ogystal â’r brentisiaeth, mae’n manteisio ar bob cyfle sy’n codi i ddysgu mwy.
“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn peirianneg ac rwy’n mwynhau gwaith ymarferol ond bu’n nod gen i ddysgu pobl eraill erioed, ac felly roedd prentisiaeth gyda Grŵp Colegau NPTC yn ddelfrydol i mi,” meddai.
“Erbyn hyn, rwy mewn swydd ddiogel, mewn gyrfa sydd â rhagolygon gwych. Fyddai hynny ddim yn bosib heb fy mhrentisiaeth a chefnogaeth fy nghydweithwyr. Gobeithio y gall fy llwyddiant i ysbrydoli fy myfyrwyr.”
Mae Stevie wedi arbed dros £2,000 y flwyddyn i’r coleg trwy gyflwyno nifer o welliannau yn y gweithdy a bu’n helpu gydag asesiadau ymarferol y myfyrwyr yn ystod y pandemig.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.
“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”