Roedd Grŵp Colegau NPTC yn falch iawn o gydweithio â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygiad (FCDO) i ddarparu rhaglen Hyfforddi’r Hyfforddwyr (ToT) chwe diwrnod i baratoi gweithwyr proffesiynol ar gyfer technolegau EV newydd ac addysgeg a dulliau’r DU.
Dyma’r rhaglen ToT gyntaf o’i math a ddarparwyd gan Grŵp Colegau NPTC yn allanol. Cyflwynwyd y rhaglen yn rhithwir trwy Borth Ar-lein Grŵp NPTC ac roedd yn cynnwys 28 o hyfforddwyr a gofrestrwyd o dan y rhaglen ToT. Mae gan bob un ohonynt brofiad yn y sector ceir ac maent wedi’u lleoli yn India.
Roedd y digwyddiad lansio yn cynnwys dros 60 o gyfranogwyr, a oedd, ynghyd â hyfforddwyr a chynrychiolwyr y Coleg, yn cynnwys pwysigion uchel eu proffil o lywodraeth y DU, NITI Aayog, y Weinyddiaeth Datblygu Sgiliau ac Entrepreneuriaeth.
Ailadroddodd yr Athro Neela Dabir, Deon yr Ysgol Addysg Alwedigaethol, Mumbai, yr angen am ddefnydd ehangach o EVs i leihau allyriadau carbon, sy’n flaenoriaeth ar raddfa fyd-eang. Roedd hi’n gwerthfawrogi’r ToT parhaus mewn EVs fel ymdrech ragorol gan fod hon yn fenter arloesol iawn i luosogi sgiliau yn y maes hwn.
Cadarnhaodd James Llewellyn, Pennaeth Gweithrediadau Rhyngwladol Grŵp Colegau NPTC, fod Grŵp NPTC mewn trafodaethau i ddarparu rhaglenni EV ychwanegol a’u bod yn datblygu rhaglenni galwedigaethol ac addysgeg Technegol ehangach ar-lein i ateb y galw cynyddol.
Dywedodd Darlithwyr Coleg y Drenewydd a Bannau Brycheiniog, Tony Burgoyne, Daniel Pritchard a William Davies, sydd i gyd wedi cyflwyno nifer o gyrsiau i ddysgwyr tramor, eu bod yn ‘wirioneddol falch o fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn ar lefel rithwir’. Darparodd darlithwyr daith rithwir o amgylch y Coleg a’r gweithdai, gan dynnu sylw at offer a pheiriannau a ddefnyddir yn y rhaglen EV, a rhoi arddangosiadau o addysg dechnegol ar-lein. Rhannodd rhai o’r hyfforddeion hefyd eu profiadau cadarnhaol o’r hyfforddiant ToT hyd yn hyn. Daeth y digwyddiad i ben gyda gair o ddiolch gan y FCDO.