Newidiodd y prentis Stevie Williams o Grŵp Colegau NPTC ei swydd ym maes gwasanaethau cwsmeriaid i ddilyn ei gyrfa ddelfrydol mewn peirianneg, ac mae bellach wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
”Sioc a syndod llwyr,” oedd ymateb Stevie pan glywodd ei bod wedi cyrraedd y rhestr fer. ”Dyma goron ar y cyfan am yr holl waith caled ac ymroddiad rydw i wedi’i roi – nid yn unig i mi, mae’n gydnabyddiaeth i’m cydweithwyr a’m mentoriaid hefyd, gan ei fod yn dangos yr hyn y gallwch chi ei gyflawni gyda’r gefnogaeth iawn.”
Gadawodd Stevie, 36, o Goytre, Port Talbot, yr ysgol yn 16 oed ac aeth yn syth i wasanaethau cwsmeriaid. Ers hynny, mae Stevie wedi cael amrywiaeth o swyddi, ond roedd bob amser yn dyheu am fod yn athrawes. Roedd hi’n ddigon ffodus i gael cyfle yn y gweithdai peirianneg canolog yng nghwmni Dur TATA, a dyna lle taniwyd ei chariad at beirianneg.
Ers dechrau ei phrentisiaeth mae wedi cael swydd fel technegydd a hyfforddwr peirianneg fecanyddol yng Ngholeg Castell-nedd ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Peirianneg Fecanyddol a Chymhwyster Cysylltiedig â Galwedigaeth (VRQ) Lefel 2, chwe mis yn gynnar.
Mae hi bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth a VRQ Lefel 3, gyda chynlluniau i symud ymlaen i Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) a Phrentisiaeth Gradd er mwyn cyflawni ei huchelgais o ddod yn ddarlithydd peirianneg.
Dywedodd Stevie, sy’n fam i ddau o blant, ei bod eisiau cymhwyster a oedd yn ymarferol, ond yn caniatáu iddi ennill wrth iddi ddysgu er mwyn cynnal ei theulu yn ystod y cyfnod. Prentisiaeth oedd yr ateb delfrydol.
“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn peirianneg ac rwy’n mwynhau bod yn ymarferol ond rydw i wedi bod eisiau mynd i addysgu erioed, felly roedd prentisiaeth gyda Grŵp Colegau NPTC yn berffaith i mi,” ychwanegodd.
“Rwyf bellach mewn swydd ddiogel mewn gyrfa gyda rhagolygon anhygoel, ac na fyddai wedi bod yn bosibl heb y brentisiaeth a chefnogaeth cydweithwyr. Rwy’n gobeithio ysbrydoli fy myfyrwyr trwy fy stori lwyddiant fy hun. ”
Mae ei phrentisiaeth yn cael ei darparu gan Hyfforddiant Pathways, yr adran hyfforddiant yn y gwaith yng Ngrŵp Colegau NPTC, lle mae ei hasesydd a chynghorydd peirianneg fecanyddol, Lee Hughes, yn ei disgrifio fel “prentis delfrydol”. Dywed fod ei brwdfrydedd, ei hymroddiad a’i haeddfedrwydd yn dylanwadu ar brentisiaid a myfyrwyr eraill.
“Mae Stevie wedi gosod y meincnod i eraill ei dilyn ac mae ei chyd-ddysgwyr yn parchu ei rôl fel hyfforddwr,” meddai. “Mae’n hyfryd gweld ei dilyniant a sut mae’n delio â’r holl waith.”
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn ddathliad o gyflawniad rhagorol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau lle bydd y 35 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cystadlu mewn 12 categori am wobrau. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar Ebrill 29.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae Openreach, busnes rhwydwaith digidol y DU a chefnogwr brwd prentisiaethau, wedi adnewyddu ei brif nawdd i’r gwobrau.