Mae cyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC, Steve Tandy, wedi cael ei enwi gan Warren Gatland fel yr Hyfforddwr Amddiffyn ar gyfer taith Llewod Prydain ac Iwerddon i Dde Affrica sydd ar ddod.
Gadawodd Tandy, sy’n hanu o Donmawr ac a astudiodd yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson, Goleg Castell-nedd ym 1998 ar ôl cwblhau Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Chwaraeon a HND mewn Hyfforddi Chwaraeon. Roedd yn aelod o dîm rygbi hynod lwyddiannus y coleg rhwng 1996 a 1998, gan ennill Cwpan Ysgolion Cymru, Cwpan Colegau Prydain a chystadleuaeth rygbi 7 Colegau Prydain.
Ar ôl gadael y coleg, cynrychiolodd Tandy Glwb Rygbi Castell-nedd a chyflawnodd gant o gapiau gyda’r Gweilch cyn dod yn Brif Hyfforddwr yn 2012, swydd y bu ynddi am chwe blynedd. Ar hyn o bryd mae’n Hyfforddwr Amddiffyn ar gyfer tîm cenedlaethol yr Alban, gan weithio o dan Gregor Townsend y bydd hefyd yn ymuno ag ef yn Ne Affrica yr haf hwn.
Dywedodd Tandy fod cael yr alwad gan Gatland yn brofiad “swreal” ac aeth ymlaen i ddweud:
“Mae chwarae Pencampwyr y Byd ar eu tir eu hunain yn brawf enfawr ac yn un rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan ohono. Mae wedi digwydd yn sydyn iawn, ac rwy’ wrth fy modd.”
Dywedodd Geraint Kathrens, Darlithydd Chwaraeon Grŵp Colegau NPTC:
“Rydyn ni i gyd yn falch iawn dros Steve. Roedd yn fyfyriwr rhagorol ac mae’n dal i fod mewn cysylltiad â’r staff yn Academi Chwaraeon Llandarcy. Mae wedi datblygu i fod yn hyfforddwr gwych ac mae ei waith caled wedi talu ar ei ganfed gyda’r Alban eleni. Mae’n haeddu ei swydd hyfforddi gyda’r Llewod. Rydym yn dymuno’r gorau iddo ar gyfer y daith haf yn Ne Affrica. ”
Soniodd Prif Hyfforddwr y Llewod, Gatland am yr apwyntiad hefyd:
“Mae Steve wedi gwneud elfen amddiffyn yr Alban yn un o’r rhai mwyaf trefnus ymhlith rygbi’r byd – rhywbeth a welsom trwy gydol y Chwe Gwlad yn ddiweddar. Mae’n amlwg ei fod yn hyfforddwr deallus ac yn rhywun rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef.”
Mae pawb yng Ngrŵp Colegau NPTC yn llongyfarch Steve ar y cyflawniad rhyfeddol hwn a dymunwn bob lwc iddo ef a gweddill tîm teithiol Y Llewod yn Ne Affrica. Bydd y Gêm Brawf gyntaf yn erbyn y Springboks yn cael ei chynnal ar Orffennaf 24ain yn Johannesburg.
I ddarganfod mwy am ein cyn-fyfyrwyr, yr aelodau nodedig a sut i ymuno, ewch i: https://www.nptcgroup.ac.uk/alumni/