Mae Grŵp Colegau NPTC wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau AB mawreddog y Times Educational Supplement (Tes) eleni.
Mae’r Coleg yn cael ei ystyried ar gyfer y Wobr Cefnogi Dysgwyr, am y gwaith y mae’n ei wneud yn cefnogi myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yn y coleg ac yn benodol am ei ffocws ar gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog a phlant teuluoedd sy’n gwasanaethu.
Dywedodd Sian Jones, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC ei fod yn newyddion gwych, a bod y gydnabyddiaeth yn dyst i ymroddiad staff y coleg.
“Mae Strategaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Iechyd a Llesiant y Coleg yn rhoi pwyslais ar ddefnyddio adnoddau i greu ymyriadau rhagweithiol i adeiladu cydnerthedd myfyrwyr. Mae ffocws y gwaith hwn yn cydnabod bod gan fyfyrwyr anghenion ac amgylchiadau arbenigol sy’n gofyn am gymorth sy’n wahanol ac weithiau’n arbenigol er mwyn adeiladu cydnerthedd a llesiant.”
Mae gan y Coleg ymrwymiad hirsefydlog i Gyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghastell-nedd Port Talbot ac ym Mhowys, ac mae wedi cymryd camau ychwanegol i ddatblygu ymhellach y cymorth y mae eisoes yn ei ddarparu i fyfyrwyr sy’n gyn-filwyr y lluoedd arfog ac yn blant teuluoedd sy’n gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys un pwynt cyswllt ar gyfer unigolion, cymorth llesiant, darparu adnoddau a thechnoleg addysgol lle bo angen a gwella sgiliau staff sy’n gyn-filwyr trwy weithgareddau gwirfoddoli.
Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC ei fod wrth ei fodd â’r enwebiad, ac y byddai staff yn parhau i ganolbwyntio ar lesiant myfyrwyr.
“Mae gennym system effeithiol ar waith i’n helpu i ddarparu cymorth i’n myfyrwyr pe bai ei angen arnynt. Mae’r cymorth i fyfyrwyr sy’n gyn-filwyr y lluoedd arfog a phlant teuluoedd sy’n gwasanaethu yn flaenoriaeth allweddol i’r Coleg, a bu manteision pellgyrhaeddol i’r Coleg o ran ei enw da fel sefydliad sy’n dosturiol ac yn deall amgylchiadau y myfyrwyr hyn ac fel sefydliad a all gyflawni ei addewidion. Mae’n amlwg bod ymdrechion y tîm Cymorth i Fyfyrwyr a’r staff sydd eu hunain yn Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog wedi golygu y gall y Coleg gyflawni ei flaenoriaethau i recriwtio a chadw myfyrwyr sy’n priodoli eu hunain i’r grwpiau hyn.”