Ychwanegodd myfyrwyr Grŵp NPTC at gasgliad trawiadol o fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar gyda medalau yn cael eu cipio ar draws sawl maes.
Mae myfyrwyr o bob rhan o Grŵp Colegau NPTC yn dathlu ar ôl ennill 13 medal yn yr ail o ddwy seremoni wobrwyo rithwir sy’n dathlu dosbarth 2021, gan gynnwys pum medal aur o’r crefftau Adeiladwaith a Gofal Plant. Llwyddodd y Coleg hefyd i ennill 10 medal arbennig ar draws y crefftau adeiladwaith gan gipio’r cwbl mewn Gwaith Coed a Phlastro gan fynd â medalau Aur, Arian ac Efydd adref yn y ddwy grefft.
Rhedodd y gyfres o gystadlaethau lleol rhwng Ionawr ac Ebrill ac mae bellach yn golygu bod cyfanswm y medalau a ddyfarnwyd yn 26 anhygoel, sef saith medal Aur, chwe Arian ac 13 medal Efydd.
Roedd y sgiliau a ddangoswyd ar gyfer yr ail seremoni yn dathlu cystadleuwyr mewn Paentio ac Addurno, Gwaith Brics, Plastro, Gwasanaeth Bwyty, Gofal Plant, Gwaith Coed, Gwaith Saer, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Sgiliau Cynhwysol ac Arlwyo a Chelfyddydau Coginio.
Daeth y pum medal aur gan y myfyrwyr Paul Mason (Paentio ac Addurno), Keelan Marney (Gwaith Brics), Johnny Donaldson (Plastro), Sammy Young (Gwaith Coed) a Rhiannon Hanford (Gofal Plant).
Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw codi proffil sgiliau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae’r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu’r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi’i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills y DU.
Dywedodd Eddy Jones, Hyrwyddwr Sgiliau Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bawb, ond mae’r ffaith bod 13 o’n myfyrwyr wedi ennill medalau yn dweud llawer nid yn unig am yr ymrwymiad y mae’r myfyrwyr hyn yn ei ddangos i’w crefftau ond hefyd am ansawdd yr addysgu a’r hyfforddi sy’n digwydd yn y coleg, hyd yn oed yn ystod pandemig.
Mae Cystadlaethau Sgiliau yn ffordd wych o ymestyn a herio myfyrwyr y tu hwnt i’w gwaith cwrs. Mae gweld ystod mor amrywiol o sgiliau yn dod drwodd yn dangos bod myfyrwyr ym mhob maes wedi’u hyfforddi i safonau uchel iawn ar draws holl safleoedd ein coleg. Rwy’n falch iawn o’r holl enillwyr heno, ac rwy’n llawn cyffro ar gyfer y digwyddiad nesaf ac i weld faint o’r myfyrwyr hyn sy’n mynd ymlaen i gymryd rhan yn WorldSkills UK.”
Dywedodd Nicola Thornton-Scott, Pennaeth Cynorthwyol Sgiliau yn Ngrŵp Colegau NPTC: ‘Mae sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf y sgiliau a’r hyfforddiant hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y gweithle yn bwysicach fyth ar ôl covid. Mae angen hyn nawr yn fwy nag erioed, ac mae cystadlaethau fel hyn yn helpu i godi dyheadau ein pobl ifanc a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar ein heconomi.”
Dyma restr lawn o’r enillwyr:
Cyfrifyddiaeth | Teri Davies | Aur |
Cyfrifyddiaeth | Kelly Hammett | Aur |
Dylunio Gwe | Ben Chappell | Arian |
Dylunio Gwe | Cameron McDonald | Efydd |
Sgiliau Cynhwysol: TGCh | James Ducay | Efydd |
Diogelwch Rhwydweithiau TG | Sam Howard | Efydd |
Cyfrifyddiaeth | Rachel Morris | Efydd |
Cyfrifyddiaeth | Caitlin Thomas | Efydd |
Cyfrifyddiaeth | Rebecca Smith | Efydd |
Therapydd Harddwch (H&F) | Rosie Newton | Arian |
Therapydd Harddwch (H&F) | Aimee Nurse | Efydd |
Therapydd Harddwch (H&F) | Ariyarnna Tidbury | Efydd |
Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff) | Lucy Lewis | Efydd |
Paentio ac Addurno | Mai Ball | Efydd |
Paentio ac Addurno | Paul Mason | Aur |
Gwaith Brics | Kellan Marney | Aur |
Gwaith Brics | Craydon Rive | Arian |
Plastro | Kian Brown | Arian |
Plastro | Johnny Donaldson | Aur |
Plastro | Thomas Johns | Efydd |
Gofal Plant | Rhiannon Hanford | Aur |
Gwaith Coed | Dafydd Jenkins | Efydd |
Gwaith Coed | Thomas Morgan | Arian |
Gwaith Coed | Sammy Young | Aur |
Sgiliau Cynhwysol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Levi Storey | Arian |
Sgiliau Cynhwysol: Arlwyo | Emma Bennet | Efydd |