Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o gyhoeddi partneriaeth strategol newydd sbon gyda’r arbenigwr Hyfforddiant Athrawon blaenllaw, Geoff Petty.
Mae’r coleg yn gweithio gyda Geoff i ddarparu safonau’r DU mewn Methodoleg ac Addysgeg mewn Addysg Dechnegol a Galwedigaethol (TVET) mewn Hyfforddiant Athrawon yn Tsieina.
Mae Mr Petty yn awdur llyfrau hyfforddiant athrawon sydd wedi gwerthu nifer fawr o gopïau, sef ‘Teaching Today’ a ‘How to Teach Even Better’. Mae’r llyfrau hyn wedi trawsnewid sut mae Dysgu ac Addysgu yn cael ei ddarparu yn y DU ac, ar ôl eu cyfieithu, mae’r llyfrau hefyd yn gwerthu’n arbennig o dda yn Tsieina. Mae hefyd yn amgylcheddwr cadarnhaol.
Ffurfiolodd Mr Petty, ynghyd â Mr James Llewellyn, Pennaeth Gweithrediadau Rhyngwladol yn NPTC, eu partneriaeth â darparwr addysg ar-lein blaenllaw yn Tsieina trwy weithgaredd llofnodi ar-lein swyddogol rhwng y tri phartner.
Dywedodd James Llewellyn, Pennaeth Gweithrediadau Rhyngwladol, sy’n llawn cyffro am y bartneriaeth newydd:
Mae’n bleser cael llofnodi’r cytundeb cydweithredu strategol hwn gyda Mr Petty a Mr Huang ar ôl yr ychydig fisoedd diwethaf o waith cynllunio a datblygu. Mae system Addysg Alwedigaethol Tsieina yn dymuno gweithredu’n rhyngwladol ac mae Grŵp Colegau NPTC wedi bod yn gweithio’n rhagweithiol gyda phartneriaid yn Tsieina yn gynaliadwy am nifer o flynyddoedd cyn Covid19, ac yna oherwydd ein perthnasoedd gwych, roeddem wedi gallu trosi i ddarparu ar-lein pan oedd yn angenrheidiol y llynedd. Bydd y prosiect hwn yn cyflwyno safonau sy’n arwain y byd i Athrawon yn Tsieina ac yn cefnogi niferoedd mawr o ran symudedd cymdeithasol.”
Gyda’r newid diweddar yn strategaeth allforio Tsieina i uwch-dechnoleg, mae bwlch sgiliau Adnoddau Dynol (AD) yn Tsieina. Mae system Addysg Bellach y DU (AB) yn enwog yn fyd-eang, ac mae athrawon Tsieineaidd yn awyddus i ddysgu gennym ni a sut mae sector AB y DU yn chwarae rhan hanfodol mewn cymdeithas, sut i ymgysylltu’n well â myfyrwyr a chyflogwyr a chynnig cadwyni cyflenwi adnoddau medrus yn fyd-eang yn y sector Technegol a Galwedigaethol.
Dywedodd Mr Petty, “Rwy’n falch iawn o weithio gyda Grŵp Colegau NPTC ar y prosiect rhagorol hwn ac, mae’r ffaith y gallwn gefnogi symudedd cymdeithasol yn y miloedd, wedi’i ddarparu mewn ffordd lân sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, yn golygu bod y prosiect hwn yn enghraifft berffaith o allforio arloesol gwyrdd y DU a Chymru”.