Cynhaliodd Llyfrgelloedd Grŵp Colegau NPTC ddigwyddiad dathlu ar-lein i longyfarch y rhai a gwblhaodd eu Her Ddarllen yn 2021. Roedd yr her yn ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr gwblhau chwe darlleniad o fewn chwe mis. Roedd uchafbwynt y digwyddiad ar-lein yn cynnwys sgwrs ysbrydoledig gan Ursula Martin, awdur a cherddwr pellter hir sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith gerdded enfawr 5,500 milltir ar draws 14 gwlad.
Roedd 45 o fyfyrwyr a oedd wedi cwblhau’r her ac un enillydd raffl lwcus. Cafodd y myfyrwyr a gymerodd ran, eu cefnogi gan lyfrgellwyr y coleg a ‘ymwelodd’ â’r grwpiau trwy Teams yn rhithiol. Fe wnaethant gyflwyno sesiynau gweithgaredd hwyliog gyda’r myfyrwyr a oedd yn eu helpu i gyflawni eu darlleniadau. Gwnaethpwyd hyn trwy greu grŵp ar-lein lle’r oedd yr holl gyfranogwyr yn aelodau a lle cafodd gwybodaeth ei phostio am yr Her. Roedd yna hefyd awgrymiadau darllen, cwisiau hwyliog yn gysylltiedig â darllen ac ymadroddion cychwyn sgwrs i ysbrydoli aelodau’r grŵp fel “Pa gymeriad fyddech chi eisiau bod o lyfr?” a “Pwy yw dy hoff ddihiryn llenyddol?”.
Roedd y digwyddiad diweddglo ar-lein yn cynnwys unigolion a grwpiau o ddysgwyr ar draws Grŵp Colegau NPTC. Gwahoddwyd Ursula i rannu stori ryfeddol ei thaith gerdded unigol ar draws Ewrop a welodd hi’n dod ar draws eirth, bleiddiaid a baeddod gwyllt. Roedd hi hefyd yn mwynhau gwahanol dirweddau ac yn teimlo cynhesrwydd dynoliaeth yn y croeso a gafodd mewn sawl gwlad. Cafodd sylw’r holl gynulleidfa wrth glywed am ei phrofiadau ac roedd llawer o gwestiynau yn dilyn gan gynnwys pam y cymerodd ran, beth fydd hi’n ei wneud nesaf ac a fyddai hi byth yn ei wneud eto. Roedd ei stori yn ysgogol ac yn un sy’n dangos mai dim ond trwy gymryd camau bach y gallwch chi ddechrau gweithio tuag at nodau mawr. Roedd hi’n ddigon dewr i archwilio’r ‘beth petai’ ac yn ddigon cryf i beidio â rhoi’r gorau er gwaethaf pandemig cenedlaethol, gan wynebu tymereddau heriol ac eirth.
Mae Ursula eisoes wedi ysgrifennu un llyfr yn seiliedig ar daith gerdded flaenorol ledled Cymru ‘One Woman Walks Wales’ ac mae bellach ar fin ysgrifennu un arall ar ei chyflawniad diweddaraf.
Daeth diweddglo’r digwyddiad ar-lein i ben gyda raffl fawr a wnaed trwy droelli olwyn rithwir. Roedd yr olwyn yn cynnwys enwau’r holl gyfranogwyr a gwblhaodd yr Her Ddarllen. Stopiodd yr olwyn i ddatgelu mai’r myfyriwr Ceri Jones o grŵp Garddwriaeth Castell-nedd oedd yr enillydd i dderbyn taleb.
Dywedodd Jacinta Jolly, Llyfrgellydd y Coleg yng Ngholeg Y Drenewydd, ‘Roedd yn wych bod cynifer o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn yr Her Ddarllen ac wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau parhaus. Roeddem mor falch o gael Ursula yn dod i’n digwyddiad ar-lein olaf a rhannu ei stori ysbrydoledig â’r grŵp. Rydym yn dymuno llwyddiant iddi hi ac yn wir i’n myfyrwyr ym mha bynnag antur y maent yn cymryd rhan ynddi nesaf o bosib ‘.