Mae myfyrwyr sy’n astudio’r Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion wedi bod yn dathlu eu canlyniadau ar ôl cwblhau’r cwrs dwy flynedd. Cwblhaodd deg myfyriwr y cwrs yn llwyddiannus gyda Linda Williams a Sam Harvey, dau aelod o staff yng Ngholeg Y Drenewydd, rhan o Grŵp Colegau NPTC yn cyflawni gradd Rhagoriaeth.
Mae myfyrwyr ar y TBAR wedi bod yn hyfforddi i addysgu ar draws amrywiaeth o feysydd galwedigaethol. Bydd y cwrs yn gwella neu’n ehangu cyfleoedd gyrfa ar gyfer y dyfodol. Cwblhaodd rhai eu hymarfer addysgu o fewn Grŵp Colegau NPTC ac mae gan eraill ddarparwyr hyfforddiant amgen.
Dywedodd Sarah Welch Darlithydd TBAR, ‘Maen nhw i gyd wedi gweithio mor galed. Fe wnaethant oresgyn heriau addysgu trwy’r pandemig, gan addasu i ddulliau addysgu a dysgu ar-lein a dulliau hybrid ar gyfer eu dysgu eu hunain ar y cwrs a’u hymarfer addysgu. Maent wedi datblygu sgiliau i’w defnyddio megis bod yn addasadwy i ddiweddaru technoleg yn gyson a sut i gymhwyso hyn o fewn eu dulliau addysgu. Rydyn ni’n falch iawn o bawb sy’n cwblhau’r cwrs eleni. ‘
Yng Ngholeg Y Drenewydd (rhan o Grŵp Colegau NPTC) rydym yn cynnig Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion (TBAR) i’r rheiny â gradd mewn pwnc perthnasol sy’n dymuno ennill cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol i weithio ym maes addysg bellach a’r sector ôl-orfodol ehangach. Ar y cwrs byddwch yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o ymarfer llwyddiannus mewn Addysg Ôl-Orfodol ynghyd â datblygu eich hyder fel ymarferydd proffesiynol.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar ein gwefan yma