Mae wedi bod yn flwyddyn arbennig arall i’n myfyrwyr yn Academi Chwaraeon Llandarcy wrth iddynt gyflawni canlyniadau rhagorol, er gwaethaf yr heriau a berir gan y pandemig parhaus.
Ddeuddeg mis yn ôl, roedd Academi Chwaraeon Llandarcy yn nwylo Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn gweithredu fel ysbyty maes yn y frwydr yn erbyn Covid-19.
Roedd hyn yn golygu bod ein myfyrwyr wedi ymgymryd â dull dysgu cyfunol o astudio, gan gofleidio technolegau cyfathrebu newydd wrth iddynt symud ymlaen trwy eu cyrsiau.
Mae’r ffaith eu bod wedi rhagori er gwaethaf yr heriau sy’n eu hwynebu yn dyst i’w gwaith caled a’u penderfyniad yn ogystal â chefnogaeth eu darlithwyr.
Cyflawnodd pum aelod o’r BTEC Lefel 3 Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) y radd uchaf bosibl; Rhagoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*).
Chloe Evans– Chwaraewr pêl-rwyd rhyngwladol a dderbyniodd fwrsariaeth chwaraeon yn ei blwyddyn gyntaf a dod yn Llysgennad Ieuenctid Aur. Mae Chloe wedi cael ei derbyn i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ac mae’n gobeithio parhau â’i gyrfa pêl-rwyd ryngwladol.
Georgia Grange– Mae’r seren rygbi a phêl-rwyd yn un i’w chofio ar gyfer y dyfodol! Mae Georgia wedi cael ei derbyn i’r enwog Goleg Hartpury i astudio am radd mewn Hyfforddi Chwaraeon.
Victoria Powney– Mae Victoria yn berfformiwr karate a phêl-rwyd ardderchog a gafodd fwrsariaeth chwaraeon yn ei blwyddyn gyntaf. Yn Llysgennad Ieuenctid Aur arall, mae hi’n mynd i astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Dywedodd Victoria: “Dwy flynedd orau fy addysg heb os! O’r darlithwyr i’r cyfleusterau, roedd Academi Chwaraeon Llandarcy yn anhygoel, ni fyddwn wedi gallu cael grŵp gwell o bobl o’m cwmpas. Mae wedi fy mharatoi ar gyfer bywyd prifysgol; rwy’n llawn cyffro i symud ymlaen ond byddaf yn gweld eisiau pawb cymaint!”
Scott Hawkins– Yn chwaraewr rygbi talentog ac yn aelod allweddol o dîm llwyddiannus Grŵp Colegau NPTC, roedd Scott yn aelod brwd o’r Cynllun Llysgenhadon Ieuenctid Aur a gweithiodd yn ddiflino, gan arwain llawer o sesiynau trwy’r pandemig. Mae Scott yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio ar gyfer gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Aneurin Morgan– Yn chwaraewr rygbi talentog a brwdfrydig arall, mae Aneurin wedi cael cynnig diamod gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio am radd mewn Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ac mae wedi bod yn hyfforddi gyda’r tîm rygbi enwog yr ‘Archers’ am y tri mis diwethaf.
Cafwyd rhai straeon llwyddiant nodedig hefyd ar y cwrs BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon (Hyfforddi a Datblygu), gyda chwe myfyriwr yn cyflawni Rhagoriaeth Serennog Driphlyg.
Ffion France– Yn aelod ymroddedig o sgwadiau pêl-droed, rygbi a phêl-rwyd y menywod, fe ddaeth Ffion o hyd i amser i ddod yn Llysgennad Ieuenctid Aur. Gan weithio ochr yn ochr â’r swyddogion PASS yn CBSCNPT, cyflwynodd sgyrsiau i lysgenhadon ifanc newydd mewn digwyddiadau hyfforddi ac arwain sesiynau ar-lein wythnosol gyda myfyrwyr Astudiaethau Sylfaen. Mae Ffion wedi ennill lle ar y cwrs Therapi Chwaraeon cystadleuol iawn ym Mhrifysgol Dinas Birmingham.
Connor Rees– Mae’r egin entrepreneur yn sefydlu ei fusnes Therapi Chwaraeon a Thylino ei hun.
Ffion Maddock– Dyfarnwyd bwrsariaeth ysgoloriaeth chwaraeon i Ffion, cricedwr rhyngwladol Cymru, yn ei blwyddyn gyntaf yn y coleg am ei thalent chwaraeon eithriadol a daeth yn Llysgennad Ieuenctid Aur. Yn dyst i’w gallu chwaraeon, derbyniodd Ffion gynigion diamod gan amryw brifysgolion ac mae wedi derbyn cynnig i astudio Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Dywedodd darlithydd Ffion, Jo Jones: “Mae Ffion wedi bod yn fyfyriwr eithriadol sydd bob amser wedi cynnal arferion gwaith da, yn dilyn pob cyfarwyddyd ac ag agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu. Roedd Ffion bob amser yn dangos meddylfryd gonest wrth ymgymryd â’r gweithgareddau allgyrsiol a bydd yn ffynnu yn ei thaith addysg uwch.”
Katelyn Kneath– Yn bêl-droediwr brwd ac yn Llysgennad Ieuenctid Aur, mae Katelyn wedi cael ei derbyn i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd.
Hannah Garnett– Mae’r cricedwr dros Gymru, Hannah, yn ymuno â Katelyn ar y cwrs gradd Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Georgia Howells– Mae’r pêl-droediwr talentog yn mynd i Brifysgol De Cymru i astudio Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Ar ben y cyflawniadau rhagorol hyn, Molly Goss, a gyflawnodd D*D*D, yw’r myfyriwr BTEC cyntaf i gael ei dewis i astudio Osteopathi ym Mhrifysgol Abertawe.
Dywedodd Molly: “Roedd y cwrs yn cynnig llawer o wahanol gyfleoedd ac mae cyfleusterau gwych ar y campws i fyfyrwyr eu defnyddio. Roedd y gefnogaeth a’r anogaeth a gefais gan fy nhiwtor a’m darlithwyr trwy gydol yr amser anodd hwn yn anhygoel ac fe wthiodd fi i gwblhau fy nghwrs hyd eithaf fy ngallu. Bydd gen i atgofion melys o hyd am yr amser a dreuliais yn Academi Chwaraeon Llandarcy. Hoffwn ddweud diolch yn fawr i’m tiwtor Jo a gweddill y staff chwaraeon am y gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi i mi dros y blynyddoedd, ac am fy ngwthio i wneud fy ngorau glas.”
Mae’r myfyrwyr hyn bellach yn ymuno â’n cyn-fyfyrwyr chwaraeon enwog sydd wedi bod yn destun penawdau eu hunain yn Ne Affrica yn ddiweddar.
Adam Beard, y cyn-fyfyriwr BTEC Lefel 3 Chwaraeon, yw’r aelod diweddaraf o’n cyn-fyfyrwyr i gyrraedd y lefel uchaf mewn chwaraeon, gan gael ei ddewis ar gyfer taith Llewod Prydain ac Iwerddon 2021 i Dde Affrica ac ennill ei gap prawf Llewod yng ngêm olaf y gyfres. Dechreuodd ei daith yn Academi Chwaraeon Llandarcy a Chlwb Rygbi Gellifedw cyn symud ymlaen trwy rengoedd Clwb Rygbi Aberafan a’r Gweilch, gan ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn 2017, ac roedd yn aelod allweddol o’r tîm a enillodd y Gamp Lawn yn 2019.
Ymunodd yr Hyfforddwr Amddiffyn Steve Tandy ag ef ar y daith, ag yntau hefyd yn gyn-fyfyriwr yn Academi Chwaraeon Llandarcy, gan astudio Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Chwaraeon a HND mewn Hyfforddi Chwaraeon.
Os ydych chi am ddilyn ôl eu traed ac ymuno â’r genhedlaeth nesaf o sêr chwaraeon yn Academi Chwaraeon Llandarcy, mae ymrestru bellach ar agor!
Cliciwch y botwm isod i gychwyn ar eich taith i Grŵp Colegau NPTC.
#ChiYwchDyfodol