Mae Fferm Fronlas yng Ngholeg y Drenewydd yn croesawu dyfodiad Efelychydd Lloia Hereford, un o ddim ond ychydig yn y DU. Bydd yr efelychydd sydd bron yn faint go iawn, yn helpu i ddysgu’r holl ffactorau sy’n ymwneud ag atgenhedlu buchod a bydd yn gwella’r cyfleoedd dysgu sydd ar gael i fyfyrwyr trwy ganiatáu iddynt ymarfer sgiliau lloia cyn mynd i’r gweithle.
Mae’r efelychydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddysgu’r broses lloia a chymorth sy’n rhywbeth a all fod yn anodd i ymarfer ymlaen llaw. Mae darlithwyr amaeth yn atgoffa myfyrwyr bod y mwyafrif o fuchod yn geni’n naturiol heb gymorth, ond weithiau mae angen cymorth er mwyn geni’n ddiogel. Gyda’r efelychydd, bydd myfyrwyr yn gallu ystyried cyflwyniad arferol llo sy’n cael ei eni a gwahanol safleoedd ac ystumiau eraill. Gallant ddysgu am leoliad organau a dod yn gyfarwydd â theimlad llo sydd wedi’i leoli’n gywir a beth i’w wneud os nad yw hyn yn wir.
Dywedodd y darlithydd amaeth Kath Jones: ‘Rydym mor ffodus i gael yr offeryn addysgol ymarferol gwych hwn – dim ond mewn colegau milfeddygol y gellir dod o hyd i’r mwyafrif o’r efelychwyr hyn. Bydd hyn yn caniatáu profiad ymarferol i’n myfyrwyr mewn amgylchedd rheoledig. Gallant ystyried y technegau cywir i gynorthwyo genedigaethau cymhleth, ynghyd â rôl rhaffau a defnyddio jaciau lloi i gywiro dystocia, lleoliad organau, technegau trin y llo heb ei eni a ffactorau eraill sy’n ymwneud â geni. Bydd ein myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth dda o loia a byddant mewn gwell sefyllfa i ddelio â sefyllfaoedd brys yn y gweithle pe byddent yn codi’.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cyrsiau Amaethyddiaeth yn Fferm Fronlas, ewch i’n gwefan www.nptcgroup.ac.uk neu ffoniwch 01686 614289.