Mae Ellie Sanders, myfyriwr Coleg Castell-nedd yn gobeithio y bydd ei llais yn cael ei chlywed wrth iddi hobnobio ag arweinwyr y byd yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn Glasgow yr wythnos hon.
Mae’r myfyriwr sy’n 17 oed ac yn astudio cymwysterau Safon U yn gobeithio y bydd ei llais yn cael ei glywed am ei bod yn un o naw aelod o Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru sydd wedi cael eu gwahodd yno. Caiff y grŵp ei hwyluso gan y sefydliadau ‘Maint Cymru’ a ‘Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru’ (WCIA). Fel rhan o waith y grŵp, gwnaethpwyd trefniadau ganddo i fynd i COP26 i gynrychioli Lleisiau’r Ieuenctid yng Nghymru. Grŵp a arweinir gan bobl ifanc gyda’r bwriad o’u i ddweud eu dweud am y newid yn yr hinsawdd yw Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru. Bydd Ellie hefyd yn cynrychioli Climate Cymru yn y gynhadledd.
Mae Ellie, sy’n astudio Almaeneg, Hanes a Chymdeithaseg ar Safon Uwch hefyd yn aelod o raglen Ragoriaeth y Coleg ar gyfer Myfyrwyr Galluog a Thalentog (GATE) sy’n cynnig cymorth cynhwysfawr ar gyfer myfyrwyr sy’n rhagori’n academaidd. Cliciwch yma am ragor o fanylion:
Wrth sôn am ran Ellie, dywedodd Kevin Rahman-Daultrey sef Rheolwr Polisïau ac Addysg Maint Cymru:
“Mae’n ffantastig bod Ellie, sy’n un o aelodau sylfaenol y grŵp yn dod i COP i gynrychioli Cymru yn y gynhadledd hynod o arwyddocaol.”
Mae Ellie yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol yn y gynhadledd. Bydd yn aelod o banel a fydd yn cynnwys llysgenhadon Hinsawdd eraill o Gymru a’r Alban, yn ogystal â’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd dros Gymru, Lee Waters ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Sero-net, Ynni a Thrafnidiaeth o’r Alban. Bydd hi hefyd yn cadeirio panel a fydd yn cynnwys llysgennad hinsawdd arall o Gymru, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ac arweinydd brodorol o Brasil. Bydd y panel hwn yn trafod lleisiau o wledydd wedi’u datganoli, sut y maent yn cael eu cynrychioli yn COP a’u rôl o ran agwedd eu gwledydd tuag at y newid yn yr hinsawdd, Nid yw Cymru yn cael ei chynrychioli’n swyddogol yn ac felly nad oes gennym gynrychiolydd uniongyrchol am ein bod yn dod o dan y DU cyfan. Felly mae presenoldeb Ellie yn hynod o arwyddocaol ac yn gam tuag at roi llais i Gymru ar y newid yn yr hinsawdd.
Bydd frwd byw ar gael ar sianel YouTube COP26. Os hoffech wylio rhai o’r digwyddiadau hyn, dyma’r sianel:
Dyma ymateb Ellie wrth esbonio’r hyn yr oedd am brofi yn y digwyddiad a’i gobeithion o ran yr hyn y byddai’r gynhadledd yn ei gyflawni: “Dwi’n gobeithio cwrdd â phobl newydd a dysgu ac ychwanegu at fy ngwybodaeth. Fel aelod o Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, hoffwn i weld undod a dwi wedi cael llond bol o wledydd yn beio ei gilydd, rydyn ni i gyd yn y llanast hwn ac mae’n rhaid i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i’w ddatrys.
“Mae’r polisïau sydd wedi dod allan o COP26 hyd yn hyn yn swnio’n iawn a dwi’n gobeithio y bydd y rheiny yn arwain at gamau gweithredu go iawn am fod byd o wahaniaeth rhwng pobl yn addo pethau ond mae brwydr arall i sicrhau bod yr addewidion hyn yn cael eu gwireddu.”
Daeth Ellie yn rhan o drafodaethau ynglŷn â newid hinsawdd yn yr ysgol gyfun wrth iddi gael ei gofyn i fynd i ffug-gynhadledd y CU. Roedd yn rhan o gynrychiolwyr ei ysgol ac ar ôl hyn, cafodd ei derbyn fel aelod o Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru. Mae hi wedi camu ymlaen i ymuno â sefydliadau eraill fel Climate Cymru yn ogystal â Chanolfan Wellbeing Economy Alliance Cymru.
Mae Ellie yn meddwl nad oes esgus gan bobl ifanc bellach i beidio â dweud eu dweud yng Nghymru am fod yr oedran pleidleisio wedi cael eu gostwng i 16 er mwyn galluogi pobl ifanc i ddylanwadu ar ddemocratiaeth a lleisio eu meddyliau ac os ydynt am weld cynnydd o ran newid hinsawdd, mae modd iddynt bleidleisio dros blaid sy’n addo mynd i’r afael â materion newid hinsawdd.
Cyfrannodd Ellie at Erthygl gan BBC Cymru yn gynharach eleni ar Gorbryder am Newid Hinsawdd. Gallwch weld yr erthygl hon drwy glicio fan hyn:
Mae Ellie yn credu bod pobl yn colli diddordeb o ran gwneud y pethau bychain i helpu newid hinsawdd am nad ydynt yn meddwl y bydd o bwys o gwbl fel gweithred fach ar ei ben ei hun. Ond bydd unrhyw beth y gallwch ei wneud er mwyn helpu i achub y blaned fel defnyddio potel dŵr amldro neu orchudd wyneb yn cael effaith go iawn. Mae gweithrediadau gan unigolion yn dod un ar ôl y llall at ei gilydd i uno a chreu gweithrediadau cyfunol a dyna pryd y mae newid go iawn yn cael ei gyflawni.
Mae Ellie hefyd yn rhan o’r Ymgyrch Hinsawdd Cymru, sef ymgyrch i fynd â 10,000 o leisiau amrywiol o Gymru i COP26. Gallwch gael rhagor o fanylion am yr ymgyrch yma:
Mae adran o’r wefan wedi’i neilltuo i ysgolion yn unig er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ddweud eu dweud mewn dull sy’n hygyrch iddynt ei ddefnyddio yn yr ysgol. Gellir cael gafael ar ystod eang o adnoddau ar gyfer yr ystafell dosbarth sy’n addas i bob oedran, gan anelu at addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc i fynd at i gymryd camau o ran yr hinsawdd, yn ogystal â hybu sgyrsiau a thrafodaethau. Gallwch gyrchu’r adnoddau fan hyn: