Mae staff, myfyrwyr a chwsmeriaid wrth eu bod i gael eu croesawu’n ôl i’n bwyty poblogaidd Themâu yng Ngholeg y Drenewydd (Rhan o Grŵp Colegau NPTC).
‘Llawer o ddiolch am drefnu pryd o fwyd ardderchog neithiwr. Dwi’n gobeithio bod hyn yn arwydd o fel y bydd pethau o hyn ymlaen’ ysgrifennodd un cwsmer hapus ar ôl dod i’r noson agoriadol nôl ym mwyty Themâu.
Mae’r bwyty a adnabyddir am ei nosweithiau thematig wedi bod ar gau oherwydd y pandemig, ond yn gynharach y mis hwn. Roedd yn bosibl croesawu cwsmeriaid hapus yn ôl. Unwaith eto, mae’r bwyty yn cynnig calendr prysur o oriau agor a fydd yn cynnwys prydau o fwyd o ddathlu traddodiadau, digwyddiadau a bwydydd o bedwar ban y byd fel y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Dydd Gwŷl Dewi i enwi ond ychydig ohonynt. Yn ogystal â chynnig cinio gyda’r hwyr mae’r bwyty hefyd yn cynnig cinio, siop goffi a bistro.
Mae’r bwyty yn rhan bwysig o’r broses hyfforddi ar gyfer ein myfyrwyr arlwyo sy’n cael profiad o weithio mewn cegin weithredol a bwyty go iawn sydd ar agor i’r cyhoedd.
Ar ôl ymweld â’r siop goffi am y tro cyntaf dywedodd Bridget Royce: “O gerdded i mewn a chael fy nghroesawu gan staff cyfeillgar a phroffesiynol a oedd i gyd yn ymddangos wir yn awyddus o sicrhau fy mod yn cael profiad gwych a ches i brofiad gwych yn bendant. Teimlais fel bwyta rhywbeth ysgafn felly dewisais gawl a rholyn fara. Yr hyn a gyrhaeddodd oedd cawl pannas gyda lliw llachar a golwg prydferth. Roedd y rholiau yn amlwg wedi’u coginio’n ffres ac yn dal yn boeth ac yn berffaith gyda menyn hufennog. Penderfynais wedyn gael paflofa bach gyda mwyar duon a mefus enfawr a hufen ffres a oedd yn blasu’n ffantastig ac yn edrych yn fwy fel campwaith yn hytrach na phwdin. Gadewais yn teimlo’n hapus iawn a byddaf yn dod yn ôl i’r boced fach hon o hud yng Ngholeg Y Drenewydd. Diolch i bawb.”
Dyma oriau agor y bwyty: 6pm Nos Fawrth, 11.30am -1pm ar ddydd Mercher; Siop Goffi, Canol dydd – 1.30pm ddydd Iau i ginio a rhywbeth newydd hefyd sef y Bistro 12 – 1.30 ar ddydd Gwener. Bydd y myfyrwyr yn bendant yn cael llawer o brofiad ac yn ymbaratoi ar gyfer Nosweithiau Thematig a gynhelir gan Themâu ar adeg y Nadolig.
Yn draddodiadol, mae adeg y Nadolig yn un o’r cyfnodau mwyaf prysur i Themâu ac mae modd bwcio bwrdd am bryd o fwyd rhwng 30 Tachwedd a 9 Rhagfyr. Rhaid bwcio ymlaen llaw.
Mae’r adran Arlwyo wedi dysgu nifer di-ri o fyfyrwyr sydd wedi camu ymlaen i weithio yn ein diwydiant lletygarwch lleol ond hefyd mewn bwytai o fri ledled y wlad a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys bwytai gyda sêr Michelin sef Alice Yeoman sy’n gweithio yn Belmond Le Manoir aux Quat’Saisons sef y bwyty o fri sy’n perthyn i’r cogydd Raymond Blanc OBE. Mae eraill hefyd sydd wedi dod o hyd i swyddi gyda chwmnïau arlwyo symudol, ar longau tanfor, mordeithiau a gyda chynhyrchwyr bwyd.
Dywedodd y darlithydd arlwyo, Shaun Bailey said: ‘Mae’n braf croesawu’r cyhoedd yn ôl trwy ein drysau. Mae gofynion sefyllfa go iawn yn rhan allweddol o’r broses ddysgu a ffordd wych i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gan ddysgu sut y dylid ymateb o sefyllfaoedd sy’n debygol o ddigwydd.’
Os hoffech drefnu pryd o fwyd yn Themâu, ffoniwch 01686 614215 neu anfonwch e-bost themes-booksing@nptcgroup.ac.uk neu dewch o hyd i ni yn y cyfryngau cymdeithasol @nptcgroupthemes
Os hoffech gael rhagor o fanylion am ein cyrsiau Arlwyo a Lletygarwch, ewch i’n gwefan os gwelwch yn dda www.nptcgroup.ac.uk