Roedd hwyl y Nadolig o gwmpas pan gynhaliodd myfyrwyr HND twristiaeth a lletygarwch ail flwyddyn Grŵp Colegau NPTC ddigwyddiad “Caredigrwydd y Nadolig” yng nghlwb Rygbi Ystalyfera ym mis Rhagfyr.
Darparodd y digwyddiad, ar y cyd â Kirstie Richards y cydlynydd ardal leol a thîm Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot (NPTSS) brydau ac adloniant i 35 o aelodau lleol agored i niwed y gymuned. Derbyniodd pob teulu ‘Nadolig mewn Bag’ yn rhodd gan Eglwys Gellionnen gyda’r plant yn cael anrheg ychwanegol o focs anrhegion yr un ynghyd â ‘theisen simnai’ wedi’i hysbrydoli gan Hwngari wedi’i phobi ar y safle gan un o’r myfyrwyr lletygarwch, Anita Kacziba.
Roedd y digwyddiad yn beilot ar gyfer prosiect Caredigrwydd yn y Gymuned NPTSS ac yn gyfle delfrydol i fyfyrwyr HND a BA Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Digwyddiadau a HND Rheolaeth Lletygarwch a’r Celfyddydau Coginio gyflawni eu digwyddiad personol fel rhan o’u graddau.
Yn rhan o’r prosiect hefyd bu myfyrwyr yn cynnal bore coffi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Sioned Williams, sy’n Aelod o’r Senedd ar gyfer De Orllewin Cymru cyn y digwyddiad.
Meddai Janet Beale, Darlithydd Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yng Ngholeg Castell-nedd:
“Roedd yn ddigwyddiad cyffrous, twymgalon a oedd yn cyd-fynd â’i enw – gan ddangos rhywfaint o Garedigrwydd adeg y Nadolig.
Roedd y myfyrwyr yn gynrychiolwyr gwych o safbwynt nhw’u hunain, y Coleg a’u Prifysgol a dyma’r tro cyntaf i ni gael y cyfle i weithio gyda chleient – Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot, yn benodol Kirstie Richards a fynychodd ein sesiynau wythnosol a gweithio gyda’r myfyrwyr. Hwn oedd digwyddiad cyntaf mewn prosiect mwy, sef Caredigrwydd yn y Gymuned, a gobeithio y bydd grwpiau eraill yn gweithio ar ddigwyddiadau dilynol.
Rydym yn gobeithio ein bod wedi darparu rhai atgofion hapus a byddwn yn dilyn i fyny ar hyn gyda Llyfr Atgofion o Nadoligau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol y bydd y myfyrwyr yn gweithio arno ar ôl y Nadolig.”