Dechreuodd adran Cerbydau Modur Grŵp Colegau NPTC y flwyddyn newydd 2022 gyda phedwar cerbyd trydanol newydd yr oedd mawr disgwyl amdanynt yn cael eu danfon. Daethpwyd â’r ceir – o Nigel Pugh Motors yn y Drenewydd ac Antony Motors yn Aberystwyth i adran cerbydau modur Coleg y Drenewydd i gefnogi’r cyfleoedd dysgu a hyfforddi ar gyfer technolegau cerbydau trydanol (EV) newydd.
Mae’r adran eisoes wedi bod wrthi’n darparu hyfforddiant ar gyfer cerbydau trydanol a cherbydau hybrid ers dechrau 2020 ar ôl prynu rig hyfforddi arbenigol yn 2019. Bydd gan ddysgwyr hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddysgu am y cerbydau a’u technolegau diweddaraf.
Mae’r adran newydd gael ei henwi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Sefydliad y Diwydiant Modur o’r enw Gwobr Cyfraniad Eithriadol i’r Diwydiant Modur – sy’n dathlu rhagoriaeth fodurol. Bydd enw’r enillydd ynn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2022.
Dywedodd y darlithydd Dan Pritchard: “Mae’n bwysig bod ein myfyrwyr yn cael mynediad i ystod o adnoddau y byddant yn dod ar eu traws wrth gamu ymlaen i’r byd gwaith a bydd yr adnoddau hyn hefyd yn cael eu defnyddio i gefnogi cyrsiau hyfforddi Cerbydau Modur Sefydliad Y Diwydiant Cerbydau Modur. Rydym yn ddiolchgar iawn i Nigel Pughs ac Antony Motors am ddod o hyd i’r cerbydau hyn.”
Dywedodd Carl James, Pennaeth yr Ysgol Beirianneg: “Mae ein hadran Cerbydau Modur wedi bod ar flaen y gad o ran darparu hyfforddiant ar gyfer diogelwch a chynnal a chadw cerbydau trydanol a hybrid a hoffwn barhau i ddatblygu’r rhaglen hon. Felly rydym wedi buddsoddi’n bwrpasol mewn adnoddau i gefnogi’r maes hwn. Wrth ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a darlithwyr ymrwymedig, edrychwn ymlaen at y flwyddyn sydd o’n blaen.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddiant Atgyweirio Cerbydau Trydanol/Hybrid y Sefydliad y Diwydiant Cerbydau Modur neu yrfa ym maes Peirianneg Fodurol, cliciwch y ddolen isod am ragor o fanylion