Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o gyhoeddi ei fod wedi ennill statws Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Cyfamod y Lluoedd Arfog (ERS). Mae’r sefydliad yn cydnabod rôl hanfodol Lluoedd Arfog Prydain, a’r cyfraniad gwerthfawr y mae aelodau’r lluoedd yn ei wneud i amddiffyn Prydain, eu cymunedau a’u gweithle sifil.
Addawodd y Coleg gefnogi’r lluoedd arfog yn dilyn arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2019, gan ddangos ei ymrwymiad i gefnogi cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd i ymwneud ag addysg a chyflogaeth ar hyn o bryd, gan hyrwyddo’r Coleg fel sefydliad cyfeillgar i’r lluoedd arfog ac annog y rhai sy’n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu, i ymuno â’r Coleg.
Gwobrwywyd cyfanswm o 24 o sefydliadau ledled Cymru. O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, mae cyflogwyr yn cefnogi personél Amddiffyn ac yn annog eraill i wneud yr un peth. Mae tair lefel i’r cynllun, Efydd, Arian ac Aur ar gyfer sefydliadau sy’n addo, yn arddangos ac yn eirioli cefnogaeth i’r gymuned Amddiffyn a’r Lluoedd Arfog.
Er mwyn cyflawni Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog o dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at faterion sy’n ymwneud â materion pobl Amddiffyn ar gyfer milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion yn y Cadetiaid, a gwŷr/gwragedd a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Dywedodd Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC Mark Dacey: “Fel darparwr addysg a chyflogaeth hirdymor i’r gymuned amddiffyn, mae’r Coleg wrth ei fodd i dderbyn y Wobr Arian. ‘Mae’n arwydd o ymrwymiad y Coleg ein bod yn cydnabod ac yn deall y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, gael eu trin gyda thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a chymdeithas. Mae’r Coleg eisoes yn cynnig ei Lu Cadetiaid Cyfun ei hun i fyfyrwyr, a bydd yn parhau i gynnig cefnogaeth i’n cadetiaid lleol, naill ai yn y gymuned neu mewn ysgolion lleol.”
CAPSIWN Y LLUN (O’r Chwith i’r Dde)
Melanie Dunbar Cyfarwyddwr AD Grŵp Colegau NPTC
Mark Dacey Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC
David Rush Cyn-filwr y Lluoedd Arfog sydd bellach yn Rheolwr Coleg Grŵp Colegau NPTC