Rydym yn dathlu Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol yr wythnos hon. Wrth ddod yn brentis, gallwch gyfuno adeiladu sgiliau a gwybodaeth trwy gyflogaeth ac astudiaethau. Yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn cynnig ystoed eang o brentisiaethau trwy ein huned Hyforddiant Pathways.
Mae Hyfforddiant Pathways yn cefnogi pobl ifanc dros 16 oed i ddatblygu sgiliau a chymwysterau sy’n gysylltiedig â gwaith yn eu gyrfaoedd o ddewis.
Ym Mhowys, mae prentisiaud yn dysgu gan y gorau am fod y Coleg wedi uno ag EvaBuild i helpu i ddatblygu gweithwyr adeiladu ar gyfer y dyfodol. Mae EvaBuild yn fusnes blaengar yng Nghymru, gyda deng mlynedd o brofiad masnachu.
Jez Wheeldon yw un o’r prentisiaid hynny. Mae Jez wedi bod yn gweithio i EvaBuild er mis Mai 2020 wrth iddo ddechrau lleoliad profiad gwaith ac wedyn ym mis Gorffennaf 2020 dechreuodd ar ei brentisiaeth swyddogol yn 17 oed. Mae e’n rhannu ei wythnos gwaith wrth dreulio diwrnod yn Coleg y Drenewydd lle y mae e’n astudio Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig Lefel 3 ac mae’n treulio’r 4 diwrnod arall yn y swyddfa.
Yn ôl Jez,’Yn ystod fy amser gydag EvaBuild, dwi wedi camu ymlaen yn sylweddol. Dwi wedi cael fy nghyflwyno i wahanol agweddau ar y busnes gan fy ngalluogi i gynnal cyfrifoldebau lle y bo’n briodol. Ers i mi adael yr ysgol a dechrau fy mhrentisiaeth yn EvaBuild dwi wedi dod i werthfawrogi pwysigrwydd profiad o weithle go iawn. Dwi’n cael profiad mewn gweithle yn EvaBuild ar yr un pryd â chwblhau fy nghymhwyster yng Ngholeg Y Drenewydd. Fel Prentis gydag EvaBuild, dwi’n teimlo fel bod cyfleoedd i fi gyflawni tasgau arwyddocaol sy’n cael effaith ar weithrediadau bob dydd y busnes a dwi’n teimlo bod y cyfrifoldeb hwn yn gwneud fy nyfodol gydag EvaBuild yn gyffrous’.
Dywedodd Clare Ward, swyddog hyfforddiant gyda Grŵp Colegau NPTC: ‘ Os oedd modd i chi wrando ar Jez wrth ei waith, byddech chi byth yn gwybod ei fod yn brentis a dim ond yn 18 oed, am ei fod yn ymddwyn fel gweithiwr hynod o broffesiynol a phrofiadol. Mae gan Jez ddyfodol ffantastig gydag EvaBuild ac mae e’n siŵr o gamu ymlaen ac rydym yn falch iawn ein bod wedi helpu Jez i ddechrau ei yrfa mewn ffordd mor gadarnhaol’.
I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau, cliciwch ar y botwm isod: