Yng Ngrŵp Colegau NPTC, credwn nad ydych chi byth yn rhy hen i symud eich addysg yn ei blaen. Croesawn fyfyrwyr o unrhyw oedran ar draws ein campysau ac rydym yn falch iawn o’n ddysgwyr sy’n oedolion. Sammy Young yw un ohonynt.
Mae Sammy yn fyfyriwr amser llawn yng Ngholeg Castell-nedd sydd wrthi’n astudio dau gwrs rhan-amser, Lefel 1 mewn Gwaith Saer a Lefel 3 mewn Gwaith Coed.
Yn ddiweddar, daeth Sammy yn Enillydd Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a bydd nawr yn symud ymlaen i rowndiau terfynol cenedlaethol Sgiliau’r Byd ym mis Tachwedd a fydd yn cael ei gynnal yn Norfolk. Wrth ateb y cwestiwn o sut teimlodd hi wrth ennill, dywedodd Sammy “Mae’n teimlo’n arbennig o dda i ennill gwobr aur yn cynrychioli Cymru, ond dwi’n canolbwyntio nawr ar ennill aur dros y DU, felly dwi’n gweithio tuag at hyn ond dwi’n hynod o hapus gyda pha mor bell fy mod i wedi teithio mewn amser mor fyr a dyma’r peth mwyaf annisgwyl i fi”
Ymunodd y fam o dri phlentyn, 42 oed, â’r cwrs Lefel 1 mewn Gwaith Coed ac yn ystod yr wythnos gyntaf, roedd hi’n siŵr mai hwn oedd y pwnc perffaith iddi hi. Roedd Sammy yn arfer rhagori yng ngwaith coed yn yr ysgol gan gyrraedd y brig yn ei dosbarth. Ar ôl iddi adael yr ysgol, aeth bywyd yn ei flaen a theimlodd fel yr oedd wedi anghofio beth yn gymwys yr oedd yn hoff iawn ohono. Erbyn hyn, mae wedi ail-ddarganfod ei hoffter o faes coed ac mae hi wrth ei bodd yn mwynhau pob eiliad o ddychwelyd i ddysgu.
Wrthi’n astudio dau gwrs rhan-amser erbyn hyn, mewn ymateb i’r cwestiwn o sut mae hi’n llwyddo i ddelio â phopeth yn ei bywyd, dywedodd: “Dydy hi ddim yn hawdd, mae fy mywyd yn hynod o brysur heb y coleg ac o leiaf wrth i fi ddod i’r coleg, mae’n ddiwrnod syml, dim ond fi, a galla i ffocysu wedyn. Felly dyma fy lle tawel, digyffro a hapus.
“Mae’r holl athrawon yn ffantastig. Dwi wedi cael cymaint o gefnogaeth ychwanegol a phopeth sydd ei angen arna i er mwyn fy helpu, fy hyfforddi a rhoi’r deunyddiau a’r profiad sydd eu hangen arna i er mwyn cystadlu yn y gystadleuaeth hon a dwi wedi teimlo bod llawer o gefnogaeth gen i.
Mae Sammy yn dweud y byddai hi’n annog menywod i fynd i mewn i faes adeiladwaith yn yr un modd ag y byddai hi’n eu hannog i wneud beth bynnag maent am gyflawni yn eu bywydau.
“Ni ddylai fod yn fenyw eich rhwystro o gwbl. Os hoffech chi wneud rhywbeth, ewch ati a rhowch gynnig arno – byddwch chi’n ffantastig – nid oes unrhyw beth yn amhosib, mewn gwirionedd, weithiau dwi’n teimlo y gall fod yn fenyw yn gymorth hyd yn oed. Mae’n groesawgar ac mae lle i fenywod yn y diwydiant adeiladu.”
Ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried dychwelyd i ddysgu, mae Sammy o’r farn eich bod yn meddu ar y ddisgyblaeth, ffocws a’r meddylfryd fel dysgwr sy’n oedolyn nad oedd gennych yn ifangach. Ac rydych mewn lleoliad mwy tawel lle y mae mwy o reolaeth gennych chi. Mae’n fendigedig dwi wrth fy modd; dwi byth am stopio dysgu”.
Hoffem ddweud llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr a gymerodd rhan yn Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru a dymunwn bob lwc i’n myfyrwyr a fydd yn cystadlu yn rowndiau terfynol World Skills UK ym mis Tachwedd.
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am ein cyrsiau rhan-amser drwy glicio ar y botwm isod.
DIWEDDARIAD: Rydym yn falch iawn i gadarnhau bod Sammy wedi ennill medal arian yn rownd terfynol World Skills UK. Dyma lun o Sammy gyda’i medal.