Mae Grŵp Colegau NPTC wedi dod yn aelod o Gyflogwyr i Ofalwyr. Gyda chefnogaeth gwybodaeth arbenigol Gofalwyr DU a Gofalwyr Cymru, mae Cyflogwyr i Ofalwyr yn rhoi cyngor ymarferol i gyflogwyr ar sut i gefnogi’r 1 o bob 4 o’r gweithlu yr amcangyfrif eu bod yn ofalwyr, neu y byddant yn dod yn ofalwyr.
Mae gweithwyr ym mhob diwydiant yn cydbwyso eu swyddi â chyfrifoldebau gofalu di-dâl. Cyn y pandemig, amcangyfrifwyd bod gan 223,000 o weithwyr yng Nghymru gyfrifoldebau gofalu hefyd, nifer yr amcangyfrifwyd ei fod wedi codi i 345,000 ar anterth y pandemig. Mae’n hanfodol i gyflogwyr ystyried yr effaith y mae hyn yn ei chael ar unigolion a’u cefnogi fel y gallant aros yn y gweithlu. Mae mantais driphlyg i gadw mwy o ofalwyr mewn gwaith; i’r gofalwr drwy sicrhau bod ganddo fywyd y tu allan i ofalu, i’r busnes drwy gadw gweithwyr gwerthfawr a phrofiadol ac i’r economi drwy gael mwy o bobl mewn gwaith.
Meddai Eleanor Glew, Is-Bennaeth Gwasanaethau Gweithredol Grŵp Colegau NPTC:
“Nod Grŵp Colegau NPTC yw cefnogi staff sydd â chyfrifoldebau gofalu. Mae Cyflogwyr i Ofalwyr Cymru wedi cynnig amrywiaeth o gymorth a fydd, yn ein barn ni, yn helpu i gyflawni’r nod hwn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i wella ein harferion gwaith presennol ymhellach.”
Meddai Catherine Reynolds, Swyddog Cyflogwyr i Ofalwyr, Hyb Cymru:
“Rydym mor falch bod Grŵp Colegau NPTC wedi ymuno â Chyflogwyr i Ofalwyr. Bydd eu dewis i fod yn bartner gyda ni yn darparu cefnogaeth hanfodol i staff sydd â chyfrifoldebau gofalu mewn cyfnod a all fod yn heriol o ran cydbwyso gwaith a gofal. Yn ogystal, bydd gweithio gyda’r Coleg yn helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar ofalwyr ledled Cymru a chynnig cymorth i gyrraedd yr holl ofalwyr ar draws gwahanol gymunedau.”
I gefnogi ein staff, ar ddydd Iau 3ydd Mawrth am 3pm, bydd y Coleg yn croesawu ein cysylltiadau Jane Healey a Catherine Reynolds o Gyflogwyr i Ofalwyr i weminar ar-lein yn trafod y canlynol:
– Rôl y Gofalwr
– Sut i siarad â’ch rheolwr llinell am eich cyfrifoldebau gofalu
– Hawliau cyfreithiol gofalwyr
– Sut i ofalu am eich Iechyd a Llesiant fel gofalwr
– Canllaw gweithwyr Cyflogwyr i Ofalwyr
– Adnoddau cymorth; a mwy
Gallwch ddod o hyd i’r ddolen yma!