Mae Christopher James wedi bod yn mwynhau ei rôl fel prentis cerbydau modur yn gweithio i gyflawni Lefel 2 Peirianneg Fodurol. Mae’n gweithio pedwar diwrnod yr wythnos yn JP Engineering Aberhonddu ac yn mynychu’r coleg yn Y Drenewydd un diwrnod yr wythnos.
Penderfynodd Chris, a oedd yn hyfforddwr dringo yn wreiddiol, yn ystod y cyfnod clo yr hoffai ailhyfforddi ac roedd yn ystyried pa gyfeiriad gyrfa i’w gymryd pan welodd hysbyseb am brentis yn JP Engineering yn Aberhonddu. Nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.
Ar ôl cymryd cam dewr i newid gyrfa, ysgwyddodd ergyd ariannol er mwyn dilyn ei freuddwyd, yn ogystal â gadael amgylchedd cyfarwydd a chysurus ei ddiwydiant blaenorol.
Dywedodd Chris: ‘Rwy’n mwynhau pob agwedd ar yr hyfforddiant. Er fy mod yn teithio un diwrnod o’r wythnos i’r Drenewydd mae’n dda dysgu pethau yma y gallaf eu rhoi ar waith yn ôl yn y gwaith. Mae gan y campws weithdy mawr, ac mae’r darlithwyr bob amser yn barod i helpu.’
Dywedodd Joshua Jones, cyflogwr Chris yn JP Engineering: ‘Mae Chris yn brentis brwdfrydig iawn. Yn awyddus iawn i ddysgu, bob amser yn gofyn cwestiynau. Nid yw erioed wedi bod yn hwyr nac wedi cael amser i ffwrdd nad yw wedi’i drefnu ymlaen llaw, mae’n ddibynadwy iawn. Rydym yn hyderus y bydd yn gaffaeliad i unrhyw weithdy unwaith y bydd wedi cymhwyso.’
Dywedodd Arwyn Jones, Asesydd Hyfforddiant Pathways: ‘Mae Chris wedi profi ei fod yn ddysgwr cyson sy’n magu hyder yn gyflym yn ei alluoedd ei hun. Mae wedi dod ag aeddfedrwydd, ynghyd â’i brofiad eang ac amrywiol o weithio gydag eraill a gronnodd yn y diwydiant gweithgareddau awyr agored. Mae’r profiad a’r cymhwysedd hwn yn rhan fawr o’r cymhwyster. Gan adeiladu ar ei sgiliau bywyd cyffredinol, gall y rhain drosi i’w grefft ddewisol erbyn hyn. Mae hefyd wedi profi ei fod yn ddysgwr ymroddedig sy’n cymudo i’r Drenewydd i hyfforddi yn ein gweithdai peirianneg cerbydau modur sydd ag adnoddau da ac yn cynnwys offer o safon diwydiant gan gynnwys offer diagnostig cyfrifiadurol o safon uchel.’
I gael rhagor o wybodaeth am Brentisiaethau neu Gyrsiau Llawn Amser mewn Peirianneg cliciwch isod.