Croesawodd Y Gaer yn Aberhonddu staff a myfyrwyr o Goleg Bannau Brycheiniog (rhan o Grŵp Colegau NPTC) i ddiwrnod blasu fu’n cynnwys dysgu ymarferol a theithiau o gwmpas y cyfleusterau. Roedd hyn wrth baratoi i’r Coleg rannu’r adeilad ar gyfer gwersi yn y dyfodol. Hefyd ar agor ar gyfer y digwyddiad oedd y caffi yn y llyfrgell, a fydd yn agor yn llawn amser dros y misoedd i ddod ac yn cael ei redeg gan staff arlwyo’r Coleg.
Dechreuodd myfyrwyr o’r ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant y diwrnod yn y llyfrgell drwy ddarllen straeon i blant o Feithrinfa Buttons a Meithrinfa Puffins. Roedd y myfyrwyr Gofal Plant Lefel 3 Becca Hiscocks a Nia Thomas yn falch gyda’r cyfle, gyda Becca yn ei chael hi’n “brofiad anhygoel i weld rhai o’r cyfleusterau gofal plant y byddwn ni’n eu defnyddio” a Nia’n credu y bydd yn “helpu pan fydda i’n cymhwyso ac yn chwilio am swydd mewn lleoliad gofal plant.”
Dywedodd Rachel Halsey, darlithydd gofal plant: “Roedd hwn yn gyfle gwych i’r dysgwyr ddatblygu eu hyder a’u sgiliau a hefyd cwrdd ag ymarferwyr gofal plant. Mae’r dysgwyr yn astudio i gyflawni gyrfaoedd fel nyrsys meithrin, cynorthwywyr addysgu ac athrawon ysgol gynradd ac yn ddiweddar maent wedi dechrau ar leoliadau gwaith mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd lleol.”
Fel rhan o’r digwyddiad, rhoddodd y rhai sy’n astudio Busnes a’r Gyfraith Lefel 3 a’r BA Busnes, Rheoli a TG, eu dealltwriaeth o’r system gyfreithiol i’r prawf mewn ffug dreial yn ystafell y llys. Roedd rheolwr campws Coleg Bannau Brycheiniog, Kevin Morris, ar ‘dreial’ am ladrata, a chwaraeodd myfyrwyr rolau’r barnwr, y rheithgor, y cyfreithwyr, yr heddlu a’r tystion. Roedd staff a myfyrwyr o’r Coleg yn gynulleidfa gaeth.
Actiodd y myfyrwyr a gymerodd ran yn y ‘treial’ mewn gwisg lawn, gan ychwanegu at eu profiad diwylliannol newydd. Bu’n rhaid iddynt hefyd ddefnyddio eu menter drwy ymateb i ‘heclo’ gan y cyhuddedig a’r gynulleidfa. Yn y diwedd, dedfrydwyd Mr Morris am y drosedd wreiddiol, ac am ddirmyg llys, gan ddilyn gweiddi rhyngddo fe a’r barnwr.
Ar ôl y ‘treial’ dywedodd Samantha Ford, myfyriwr blwyddyn gyntaf mewn Busnes a’r Gyfraith Lefel 3: “Fe wnes i chwarae rôl tyst, a dysgais lawer am ba mor hanfodol yw tystion i achos. Mae’r gyfraith wedi mynd yn fwy real i mi heddiw. Roedd cael y profiad ymarferol hwnnw’n hwyl, ac mae gen i fwy o ddiddordeb mewn gyrfa yn y gyfraith ar ôl cymryd rhan.”
Meddai Robin Flower, Darlithydd Busnes a’r Gyfraith: “Roedd yn hynod ysbrydoledig i’n myfyrwyr ail-greu treial yng nghyffiniau hanesyddol ystafell llysoedd yr amgueddfa. Fe’u cefnogwyd gan gynulleidfa werthfawrogol o gyd-fyfyrwyr, a staff Y Gaer a’r Coleg.”
Daeth y diwrnod blasu i ben gyda chyflwyniad gan yr awdur a’r athro Chloë Heuch, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies 2021. Rhoddodd yr awdur gyngor i’r myfyrwyr am ysgrifennu er hwyl ac er eu lles eu hunain, a bu iddi ddarllen detholiadau o’i nofel ddiweddaraf i oedolion ifainc, Too Dark To See. Yn siarad am y digwyddiad, dywedodd Chloë: “Gall ysgrifennu fod yn arf cadarnhaol iawn i gadw meddylfryd cadarnhaol pan fyddwch chi yn y Coleg.”
“Mae pobl yn mynegi eu hunain mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys blogio a vlogio, ond roeddwn i eisiau annog ysgrifennu a chadw siwrnal hefyd. Weithiau gall postio ar gyfryngau cymdeithasol fod yn ddrwg i’ch lles, ond mae ysgrifennu a chadw siwrnal yn rhoi lle diogel i chi rannu eich teimladau. Rwy’n credu ein bod ni’n gweld atgyfodiad mewn cadw siwrnalau ac ysgrifennu o ganlyniad i hyn.”
Wrth siarad am ddigwyddiadau’r diwrnod blasu, dywedodd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Yn ystod ein hymweliad, rydym wedi gweld ein myfyrwyr yn cael profiad ymarferol, wedi’i helpu gan frwdfrydedd a gwybodaeth staff Y Gaer. Wrth i ni gydweithio a rhannu cyfleusterau’n gynyddol yn y dyfodol, bydd cyfleoedd pellach i gysylltu’r cwricwlwm â’r amgueddfa a’r llyfrgell.
“Rwy’n credu bod y bartneriaeth rhwng y Coleg a’r amgueddfa yn rhywbeth nad yw’n bodoli yn y rhan fwyaf o drefi. Rydyn ni’n wasanaethau cyhoeddus sy’n cyd-feddiannu lle yng nghanol y dref er lles y gymuned leol, ac yn awr yn cynnig profiad diwylliannol i fyfyrwyr na fyddent wedi cael mynediad iddo o’r blaen.”
Dywedodd Nina Davies, Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Powys: “Roedd hwn yn ddiwrnod digwyddiadau anhygoel i oedolion ifainc ac yn gyfle gwych i ennyn diddordeb myfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog yn ein gwasanaethau llyfrgell ac amgueddfeydd. Mae staff Y Gaer a’r Coleg wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol ac addysgol rhyngweithiol i’r myfyrwyr ac maent yn edrych ymlaen yn fawr at gyfleoedd ymgysylltu pellach yn y dyfodol agos.
“Fel adnodd cymunedol a werthfawrogir yn fawr, mae Y Gaer mewn sefyllfa dda i gysylltu myfyrwyr â’u diwylliant a’u treftadaeth, yn ogystal â chefnogi addysg a meithrin sgiliau mewn lleoliad ysbrydoledig. Mae llawer o syniadau creadigol ar gyfer digwyddiadau newydd – edrychaf ymlaen at weld beth fydd yn digwydd nesaf!”
Capsiwn o’r llun: Staff Y Gaer a Grŵp Colegau NPTC yng Nghaffi Y Gaer. O’r dde i’r chwith: Martin White (Uwch Swyddog: Arlwyo, NPTC); Trish Thomas, Nichola Farr ac Alan Hood (Y Gaer); Andy Borgia (Arlwyo, NPTC); Mark Dacey (Pennaeth, NPTC).