Cafodd myfyriwr Grŵp Colegau NPTC, Owen Thomas, ei enwi’n bencampwr pwysau canol iau cyngor bocsio amatur Cymru a Phrydain ar ôl buddugoliaeth wych yng Nglynebwy yr wythnos ddiwethaf.
Mae Owen, 17 oed o Landrindod bellach wedi ennill teitl pencampwr y DU a Chymru yn ei gategori pwysau 65kg ar ôl dod yn fuddugol yn lleoliad The Rock yng Nglynebwy, mewn digwyddiad a noddwyd gan Ken Coughlin.
Mae diddordeb Owen mewn bocsio wedi dilyn llwybr ei dad Martin, a fu’n focsiwr amatur am nifer o flynyddoedd. Mae Martin bellach yn hyfforddi yng Nghampfa a Chlwb Bocsio Nicks yn Llandrindod.
Dywedodd Owen: ‘Enillais deitl Cymru llynedd ac rwy’n falch iawn o fod yn bencampwr amatur iau Cymru a Phrydain’, ond ychwanegodd y gallai fod wedi bod yn stori hollol wahanol gan iddo bron â methu’r ornest yn gyfan gwbl ar ôl dioddef anaf poenus i’w fawd ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad.
‘Bu bron imi dynnu allan, ond yn y diwedd gwnaethon ni rwymo fy mawd ac es ymlaen i ennill.’
Dywedodd Owen, sydd yn ei flwyddyn gyntaf o Ddiploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu yng Ngholeg y Drenewydd: ‘Roeddwn i’n meddwl am ddod yn hyfforddwr a des i i’r Coleg i noson agored, cael cyfweliad gyda’r darlithydd Amy Watkins a gwybod yn syth mai dyna oeddwn i eisiau ei wneud. Rwyf mor falch fy mod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw gan fod y darlithwyr wedi bod yn gefnogol iawn.’
Aeth ymlaen i ddweud, ‘Mae cael cyfoedion o gwmpas sydd â diddordeb mewn chwaraeon ac sydd hefyd yn gystadleuol yn helpu i’ch cymell ac mae’r cwrs yn sicrhau eich bod yn meddwl am elfennau ffitrwydd, maeth a hyfforddiant felly mae’r cyfan yn fy helpu i gadw ffocws.
‘Rydw i eisiau bod yn hyfforddwr fel fy nhad yn y pen draw, ond rydw i hefyd eisiau cael ychydig mwy o ornestau i amddiffyn fy nheitlau ac efallai ymladd am deitl Ewropeaidd neu genedlaethol hefyd’.
Dywedodd y darlithydd Amy Watkins: ‘Roedden ni’n llawn cyffro dros Owen. Mae’n fyfyriwr cymwys, sy’n rhoi llawer o ymdrech i bopeth y mae’n ei wneud. Yn ddiweddar dyfarnwyd bwrsariaeth iddo gan y Coleg i gydnabod ei ymdrech a’i ymroddiad a bydd hyn yn helpu i ariannu ei ddewis ddiddordebau. Mae’n haeddu gwneud yn dda a bydd yn bleser ei wylio’n datblygu.’
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am ein cyrsiau Chwaraeon ewch i’n gwefan neu beth am ddod i un o’n diwrnodau agored.