Cafodd Grŵp Colegau NPTC noson i’w chofio pan gynhaliodd Gwobrau Ysbrydoli Sgiliau 2022. Roedd y digwyddiad yn well fyth gyda blwyddyn wych arall am fedalau lle’r enillodd y Coleg ddwy fedal aur, saith arian a dwy efydd.
Eleni, cynhaliwyd y seremoni wobrwyo hybrid yn rhithiol, gyda chwe digwyddiad lloeren yn cael eu cynnal gan ddarparwyr yng Nghymru, er mwyn i ffrindiau a theuluoedd o bob rhan o Gymru allu gwylio. Roedd Grŵp Colegau NPTC yn un o’r canolfannau lloeren a ddewiswyd i gynnal y gwobrau a gyflwynwyd gan Mari Lovegreen ac Ameer Davies-Rana.
Enillwyd medalau aur gan y myfyriwr Plastro Trystan Holmes, a’r Myfyriwr Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol Juned Miah yn y gystadleuaeth Dylunio Gwe.
Roedd Juned Miah wrth ei fodd yn ennill y fedal aur, a meddai:
”Rwy’n teimlo’n ecstatig, ac mewn sioc i ddweud y gwir. Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried cymryd rhan mewn cystadleuaeth sgiliau yw i fynd amdani – byddwch yn hyderus gan y gallwch ennill aur, yn union fel y gwnes i!”
Enillwyd medalau arian yn y cystadlaethau Cyfrifeg gan Jonathan Berrow, Anna Williams – Hayes, a Phillip Parsons. Courtney Evans (Arian) ar gyfer Sgiliau Cynhwysol – Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Holly Davies (Arian) Sgiliau Cynhwysol – TGCh TGCh, Oliver Smith yn y gystadleuaeth Dylunio Gwe a’r myfyriwr Therapi Harddwch, Ariyarnna Tidbury.
Yn olaf, dyfarnwyd efydd i Rhys Watkins yn y gystadleuaeth Sgiliau Codio, Jack Holmes mewn Plastro.
Yn amodol ar rownd arall o geisiadau, gallai’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol nawr fynd ymlaen i gystadlu yn y cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol yn WorldSkills UK, EuroSkills a WorldSkills rhyngwladol.
Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru drwy Ysbrydoli Sgiliau yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid Cymru herio, meincnodi a chodi eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cyfres o gystadlaethau sgiliau galwedigaethol lleol ar draws ystod o sectorau.
Mae’r Gwobrau Ysbrydoli Sgiliau yn cynnig cyfle i unigolion a sefydliadau gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymrwymiad, eu gwaith caled a’u cyflawniadau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Bu mwy na 800 o bobl ifanc yn cystadlu dros y tri mis diwethaf, gyda 267 o bobl ifanc yn cipio gwobrau sgiliau mawreddog ledled Cymru, sef 89 medal aur, 87 arian a 91 efydd i gyd.
Roedd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC yn falch y dewiswyd y Coleg fel canolfan gynnal. Dywedodd:
“Mae’n anrhydedd mawr i Grŵp Colegau NPTC gael ei ddewis i fod yn ganolfan lloeren ac i allu clywed llwyddiannau a chanlyniadau gwych yr holl gystadleuwyr, er gwaethaf blwyddyn heriol arall. Ni fyddai’r noson hon yn bosibl heb waith caled a phenderfyniad pob myfyriwr sydd wedi dewis cystadlu, ond hefyd staff y Coleg a dreuliodd oriau lawer ar ben eu horiau dysgu arferol yn mentora a hyfforddi ein cystadleuwyr yn barod ar gyfer y cystadlaethau.”
Dywedodd Edward Jones, Hyrwyddwr Sgiliau Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r ffaith bod cynifer o’n myfyrwyr wedi ennill medalau yn dweud llawer nid yn unig am yr ymrwymiad y mae’r myfyrwyr hyn yn ei ddangos i’w meysydd crefft ond hefyd am ansawdd yr addysgu a’r hyfforddi sy’n digwydd yn y Coleg. Rydym yn gyson yn gwneud yn dda mewn cystadlaethau ym mhob disgyblaeth, ond mae gweld ystod mor amrywiol o sgiliau yn dod drwodd yn dangos bod myfyrwyr ym mhob maes wedi’u hyfforddi i’r safonau uchaf oll ar draws holl safleoedd ein coleg.
Rwy’n falch iawn o’r holl enillwyr, ac rwy’n edrych ymlaen i weld faint o’r myfyrwyr hyn sy’n mynd ymlaen i gystadlu yn WorldSkills.”
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae llwyddiant y wlad hon yn y dyfodol yn nwylo pobl ifanc Cymru, felly mae’n wych gweld mentrau fel Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a’r prosiect Ysbrydoli Sgiliau yn dathlu ac yn arddangos talent ifanc.
“Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn helpu i arfogi pobl ifanc â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Mae’n cynnig cyfle i unigolion fagu hyder a sgiliau cyflogadwyedd tra’n galluogi cyflogwyr i ddysgu sgiliau swydd-benodol.
“Mae’n hanfodol ein bod yn buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol ac yn parhau i ddarparu cyfleoedd fel Cystadleuaeth Sgiliau Cymru fel bod llwyfan i bobl ifanc arddangos eu galluoedd. Mae cystadlaethau sgiliau yn darparu llwyfan i bobl symud ymlaen a datblygu i fod yn weithwyr medrus iawn, ac felly’n bwydo’n ôl i’r economi.”