Roedd myfyrwyr arlwyo yng Ngholeg Y Drenewydd yn ddigon lwcus i groesawu cyn-fyfyriwr a chogydd poblogaidd Jamie Tully yn ôl. Astudiodd Jamie gwrs Coginio Proffesiynol yng Ngholeg Y Drenewydd cyn symud ymlaen i fod yn gogydd preifat i enwogion a phobl gyfoethog ac yn berchennog ar ei gwmni ei hun Culinary Genius Store. Mae Jamie wedi coginio i gleientiaid yn cynnwys Sheikh Dubai ac enwogion megis Justin Timberlake a P Diddy.
Dechreuodd gyda chyflwyniad byr i gyflwyno ei hunan gan ddweud wrth y myfyrwyr am eu dyddiau cynnar yn gweithio yn y tai gwesty a gwestai lleol wrth astudio VRQ Lefel 1 a 2, cyn symud ymlaen i weithio fel Dirprwy Gogydd o dan gyfarwyddyd Kitchen at The Lake Country House Hotel and Spa ger Llanfair-ym-muallt, ar ôl cyflawni’r cymhwyster NVQ Lefel 3. Ar ôl gadael, roedd yn Gogydd Crwst de Partie ac aeth ymlaen i weithio mewn cabanau yng nghyrchfannau sgïo Awstria, cyn gwneud cais i weithio ar Superyachts.
Cynhaliodd Jamie arddangosiad o dechnegau i ddangos myfyrwyr Coginio Proffesiynol sut i greu risoto llyfn a hufennog, cytbwys a blasus. Wrth goginio rhannodd straeon ffantastig â’r myfyrwyr o’i anturiaethau ar y môr gydag enwogion a phobl gyfoethog a thrafod pethau defnyddiol y mae wedi eu dysgu trwy weithio gyda chogyddion o bedwar ban y byd.
Ar ôl yr arddangosiad, cynhaliwyd cystadleuaeth goginio i’r myfyrwyr a oedd yn gorfod creu risoto blasus ei hunan gan roi pedair gwobr ffantastig, gwerth £150 yr un, ar gyfer y prydau o fwyd gorau.
Dyma’r enillwyr lwcus a gafodd roliau cyllyll Culinary Genius Store sef brand Jamie; yn gyntaf. Nina Petryszyn gyda risoto o bupurau coch a blas tsili, yn ail – Gabi Wilson, yn drydydd Josh Edwards, a oedd wedi helpu Jamie wrth baratoi’r cynhwysion ar gyfer yr arddangosiad risoto yn gynharach ac wedyn yr un nesaf at y gorau, Cailin Francis.
Rhoddodd y darlithydd arlwyo Shaun Bailey ei ddiolch i Jamie am roi ei amser i ymweld â’r Coleg, rhannu ei arbenigedd a rhoi gwobrau ffantastig
Dywedodd Shaun: ‘Mae llwybr gyrfaol Jamie, o’r Coleg i Superyachts, a’r ffaith ei fod yn rhedeg ei fusnes ei hun, yn dangos i fyfyrwyr bod amrywiaeth o sectorau amrywiol y gall cogyddion weithio ynddyn nhw. Mae ystod ei wybodaeth wedi’i ddatblygu o ganlyniad i bob cyfle ac roedd yn ysbrydoliaeth wych i’n myfyrwyr, roedd pob un ohonynt yn cael eu cymell gan ei bresenoldeb a gwnaeth pawb ymdrech syfrdanol wrth goginio risoto.’